Enwi peilot damwain awyren Maes Awyr Caernarfon yn lleol
- Cyhoeddwyd
Mae'r peilot fu farw mewn damwain awyren ym Maes Awyr Caernarfon nos Fercher wedi cael ei enwi'n lleol fel John Backhouse.
Y gred yw bod Mr Backhouse, 62, oedd yn arbenigwr ariannol o ardal Caer, yn hedfan o'i lain lanio breifat ger Northwich i Weriniaeth Iwerddon pan ddigwyddodd y ddamwain.
Tarodd yr awyren y llain lanio ger Caernarfon tua 18:30 wedi i'r maes awyr gau.
Aeth y peiriant ar dân a daeth cadarnhad yn ddiweddarach bod y peilot wedi marw yn y fan a'r lle.
Dyw'r peilot heb gael ei enwi'n swyddogol ar hyn o bryd ac mae ymchwiliad yn parhau.
Tystysgrif diogelwch
Roedd yr awyren dwy injan Piper PA-31 Navajo oedd, mae'n debyg, yn cael ei llywio gan Mr Backhouse, wedi ei chofrestru gydag awdurdodau hedfan yn yr UDA. Cafodd ei thystysgrif diogelwch diweddaraf - sy'n ddilys am dair blynedd - ar 31 Awst.
Mae cofnodion radar yn dangos bod yr awyren wedi hedfan o'r llain lanio ger Northwich i Shannon yn Iwerddon ym mis Ebrill, ar lwybr aeth â hi'n agos at Faes Awyr Caernarfon.
Aeth hefyd ar hyd arfordir gogledd Cymru ym mis Ebrill ac i ardal Llundain a Chernyw yn ystod yr haf.
Roedd gan Mr Backhouse radd yn y gyfraith, ac roedd yn arbenigo mewn cyfrifo treth.
Ar un cyfnod, roedd yn aelod amlwg o'r Ceidwadwyr yn Lerpwl, gan sefyll dros y blaid yn etholiadau cyffredinol 1987 a 1992.
Roedd ganddo gysylltiadau busnes yn Iwerddon ac roedd yn gyfarwyddwr ar gwmni Ardo Air Services Ltd.
Bu hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni awyr yn Widnes ynghyd â Syr Phillip Carter, oedd yn gadeirydd ar glwb pêl-droed Everton.
'Hedfan yn obsesiwn'
Dywedodd Mike Crabtree, cymydog i Mr Backhouse ym mhentref Antrobus ger Caer, ei fod yn beilot da.
"Roedd o'n hogyn peniog. Yn y byd ariannol oedd ei sgiliau ac roedd yn cadw'i ben i lawr ac yn meindio'i fusnes ond ei bleser mawr oedd hedfan," meddai.
"Roedd hedfan yn obsesiwn iddo fo.
"Fe oedd ganddo fo gyfran mewn hofrennydd mawr Augusta, sydd fel Ferrari'r hofrenyddion, ond dydw i heb weld hwnna ers tro."
Dywedodd Mr Crabtree bod llain lanio Mr Backhouse tu cefn i'w gartref a'i fod yn mynd i Ddulyn ar noson y digwyddiad.
"Mae'n drist iawn. Mae'n sioc i'r cymdogion i gyd."
'Ased, cefnogwr a ffrind'
Roedd Mr Backhouse yn arfer bod yn ymddiriedolwr ar elusen plant KIND yn Lerpwl.
Dywedodd sylfaenydd yr elusen, Stephen Yip, bod Mr Backhouse yn "ased, cefnogwr a ffrind gwych."
"Roedd o'n ddyn hyfryd ac mae gen i atgofion annwyl ohono. Mae hi mor drist ei fod wedi mynd fel hyn," meddai.
"Roedd gennym ni ganolfan yn Yr Alban yn y gorffennol ac fe ddefnyddiodd ei awyren ei hun i fynd â'n noddwyr a'n rhoddwyr i Prestwick i ymweld â'r ganolfan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2017
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017