Bron i dri chwarter cleifion canser yn goroesi blwyddyn
- Cyhoeddwyd

Mae bron i dri chwarter y cleifion yng Nghymru sydd â chanser yn goroesi am o leiaf flwyddyn wedi eu diagnosis, yn ôl ystadegau newydd.
Mae'r ffigyrau'n dangos bod cyfraddau goroesi canser yn gyffredinol wedi gwella'n sylweddol dros y degawd diwethaf.
Rhwng 2000 a 2004, roedd tua dwy ran o dair (65.9%) o gleifion canser yn dal i fyw flwyddyn ar ôl eu diagnosis.
Erbyn y cyfnod rhwng 2010 a 2014, roedd y ffigwr hwnnw wedi codi i 72.7%.
Mae'r ystadegau hefyd yn dangos gwelliannau mawr o ran goroesi dros gyfnod hirach, gyda chyfran y cleifion sydd wedi goroesi am bum mlynedd yn cynyddu o 49.7% rhwng 2000-2004 i 57.1% rhwng 2010-2014.

Bu gwelliant sylweddol yng nghyfraddau goroesi canser y croen, y prostad a'r coluddyn ac yn arbennig canser yr ysgyfaint.
Mae goroesi blwyddyn ar gyfer canser yr ysgyfaint wedi gwella 5.8 pwynt canran dros bum mlynedd - sydd gyfwerth â chynnydd o 20%.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos nad oes gwahaniaethau sylweddol mewn cyfraddau goroesi canser pum mlynedd rhwng Cymru a Lloegr am unrhyw ganser.
Fodd bynnag, mae Cymru y tu ôl i Loegr yng nghyfran cleifion canser yr ysgyfaint sy'n goroesi am o leiaf flwyddyn.
Dyma'r tro cyntaf i'r gymhariaeth hon gael ei gwneud.


Mae'n dilyn dadl ddwys yn y blynyddoedd diwethaf am berfformiad cymharol GIG Cymru o'i gymharu â Lloegr.
Fodd bynnag, mae nifer o astudiaethau rhyngwladol yn dangos bod y DU yn perfformio'n wael ar oroesi canser o'i gymharu â gwledydd datblygedig eraill.


Y Prif Bwyntiau:
Yn gyffredinol, mae cyfraddau goroesi canser yn uwch mewn menwyod na dynion, ond mae'r bwlch yn cau
Canser y croen a chanser y prostad sydd â'r cyfraddau goroesi uchaf yng Nghymru
Bu gwelliant sylweddol yng nghyfraddau goroesi pum mlynedd melanoma, canser yr ysgyfaint, prostad a choluddyn
Does dim gwahaniaethau ystadegol sylweddol ar oroesi pum mlynedd rhwng Cymru a Lloegr am urnhyw fath o ganser, er bod cyfraddau goroesi mathau penodol o ganser yng Nghymru a Lloegr yn is nag yng Ngogledd Iwerddon.