Lansio cymrodoriaeth ymchwil er cof am Rhodri Morgan

  • Cyhoeddwyd
Rhodri MorganFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rhodri Morgan ym mis Mai, yn 77 oed

Bydd cymrodoriaeth ymchwil newydd yn cael ei lansio er cof am gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a fu farw ym mis Mai.

Bwriad y gymrodoriaeth yw cynnig cyfle i unigolyn sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru i ymchwilio i foeseg ym meysydd rhoi organau pediatrig, trawsblaniadau a dialysis.

Mr Morgan, cyn Aelod Cynulliad Gorllewin Caerdydd, oedd yn gyfrifol am ddechrau'r drafodaeth ynglŷn â newid y drefn rhoi organau.

Yn ôl y drefn newydd yng Nghymru mae'r awdurdodau yn tybio fod pobl yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw, oni bai eu bod wedi nodi eu gwrthwynebiad cyn hynny.

'Falch iawn ohono'

Bu farw'r cyn Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol yn 77 oed ym mis Mai.

Cafodd y penderfyniad ei wneud i gynnig y gymrodoriaeth ar ôl ymgynghori gyda'i weddw, Julie Morgan.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Julie Morgan yn un o'r bobl fydd yn dewis pwy fydd yn cael y gymrodoriaeth er cof am ei gŵr

Bydd yr unigolion llwyddiannus yn cael cyfle i weld arbenigedd ar draws y byd a chyfle i ymweld â gwledydd tramor.

Mrs Morgan a'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fydd ar y panel penodi.

Dywedodd yr AC Jane Hutt, sy'n noddi'r digwyddiad yn y Cynulliad ddydd Mercher, bod y gymrodoriaeth yn ffordd "hyfryd o gofio Rhodri".

Dywedodd: "Yn ystod ei amser yn Brif Weinidog, Rhodri ddechreuodd y ddadl ynglŷn â chael deddfwriaeth newydd ar roi organau.

"Fe arweiniodd hynny at Gymru'n dod y wlad gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno caniatâd tybiedig, rhywbeth yr oedd yn falch iawn ohono."

Mudiad Aren Cymru, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac Uned Ymchwil Arennol Cymru, sy'n noddi'r gymrodoriaeth.