Cannoedd yn angladd Rhodri Morgan yn y Senedd
- Cyhoeddwyd

Bu'r prif weinidog presennol, Carwyn Jones, y siarad yn y gwasanaeth
Roedd cannoedd o bobl yn angladd y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan yn y Senedd dydd Mercher.
Fe wnaeth ei deulu a'i ffrindiau roi teyrngedau iddo, gan adlewyrchu ei fywyd gwleidyddol a phersonol, a'i gariad at chwaraeon.
Roedd y seremoni, oedd yn agored i'r cyhoedd, yn cael ei harwain gan y ddyneiddwraig Lorraine Barrett.
Fe ddisgrifiodd y digwyddiad fel "dathliad o'i fywyd trwy eiriau, barddoniaeth a cherddoriaeth".
Mr Morgan, a fu farw yn gynharach y mis hwn, oedd Prif Weinidog Cymru rhwng 2000 a 2009.

Yn ogystal â'r rheiny y tu mewn i'r Senedd, roedd cannoedd wedi ymgynnull y tu allan hefyd
Cafodd glod am ddod â sefydlogrwydd i'r corff yn nyddiau cynnar ei deyrnasiad.
Fe wnaeth tua 500 o bobl fynychu'r gwasanaeth, gyda 360 y tu mewn i'r Senedd a channoedd y tu allan.
'Prif weinidog y bobl'
Dywedodd Ms Barrett, oedd ei hun yn aelod Cynulliad rhwng 1999 a 2011, mai "ef oedd prif weinidog y bobl, a seremoni'r bobl fydd hon".
Roedd teyrngedau gan deulu Mr Morgan yn cynnwys fersiwn o Calon Lân gan ei ŵyr, Efan.
Dywedodd ei ferch, Mari ei bod wedi cael "plentyndod anhygoel" gyda thad oedd "wedi gwirioni â chwaraeon".
"Gwelwch yma ryfeddod cadernid ein cenedl ni": Rhan o deyrnged y Parchedig Ganon Aled Edwards i Rhodri Morgan
Ymhlith y siaradwyr eraill yn y seremoni oedd y prif weinidog presennol, Carwyn Jones, wnaeth roi teyrnged iddo trwy ddarllen cerdd Dylan Thomas, Do Not Go Gentle Into That Good Night.
Roedd y teyrngedau cerddoriaeth yn cynnwys caneuon gan The Hennessys a Chôr Cochion Caerdydd.
Yn dilyn y digwyddiad yn y Senedd, bydd gwasanaeth claddu yng Nghapel Wenallt yn Amlosgfa Thornhill yn y brifddinas ar ddydd Iau 1 Mehefin am 14:00.