Galw am gyfarfod am lygredd ar ystâd dai yn Amlwch
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o drigolion stad dai yn Amlwch, ble mae profion am lygredd posib yn mynd i gael eu cynnal, yn galw am gynnal cyfarfod cyhoeddus.
Fe gyhoeddodd Cyngor Ynys Môn ar 14 Hydref eu bod yn bwriadu cael cwmni i wneud y gwaith profi ym mis Rhagfyr, gan bwysleisio nad oes lle i boeni.
Ond nawr mae rhai o'r trigolion yn holi pam fod Cyngor Ynys Môn wedi aros cyhyd cyn ymchwilio i lygredd posib yn eu gerddi.
Dywedodd arweinydd y cyngor nad oes yna "risg" i drigolion yr ystâd.
'Pam rŵan?'
Fe godwyd stad Craig y Don yn y 50au cynnar ar safle hen waith cemegol Hill's - safle gafodd hefyd ei ddefnyddio ar gyfer mwyndoddi copr dros 200 mlynedd yn ôl.
Cafodd Miriam Sanders ei magu ar yr ystâd. Yno roedd ei chartref nes iddi briodi, ac fe ddychwelodd yno i fyw yn 2009.
"Maen nhw [Cyngor Ynys Môn] yn codi ofn heb fod isio," meddai.
"Mae'r tai 'di cael eu hadeiladu ers 60 mlynedd. Am be maen nhw isio profi'r pridd rŵan?
"Os oes rhywbeth wedi digwydd, mae o wedi digwydd yn y gorffennol. Os ydyn nhw yn ffeindio rhywbeth, be fedran nhw 'neud am y peth?
"Mi ddylai profion fod wedi cael eu gwneud cyn i'r cyngor adeiladu'r tai - ond eto 60 mlynedd yn ôl doedden nhw'm yn meddwl am y ffasiwn betha'."
Yn ôl y cynghorydd lleol, Aled Morris Jones, mae'n rhaid bod y cyngor wedi gwybod am hyn ers nifer o flynyddoedd.
"Ddylai bod y profion yma wedi cael eu cynnal yn gynt. Dwi ar ddallt bo' nhw'n gwybod bod angen gwneud profion, ond doedd na'm cyllideb ar gael," meddai.
"Ond dwi'n meddwl ella 'sa fo'n well tasan nhw wedi cael cyllideb.
"Doedd na'm un cynghorydd yn gwybod am y mater yma tan wythnos i ddydd Mercher diwethaf."
Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi nad ydyn nhw wedi "eistedd ar ddim un broblem".
"Roedd Llywodraeth Cymru wedi agor pot o arian yn ystod yr haf yn rhoi cyfle i bob un awdurdod yng Nghymru roi ceisiadau i mewn," meddai.
"'Da ni di rhoi cais i mewn a 'di bod yn ffodus iawn o dderbyn yr arian.
"Dio ddim yn rhywbeth oedd angen ei wneud - does 'na ddim risg, does 'na ddim problem. Arian allanol sydd 'di dod ar gael a 'da ni 'di gwneud y defnydd gora' o hwnnw."
Gwybodaeth i'r cyhoedd
Hyd yma, mae preswylwyr tua 70 o'r 120 o dai wedi cytuno'n ffurfiol i'r cyngor gymryd samplau o'u gerddi.
Fe fydd y gwaith hwnnw'n digwydd yn Rhagfyr ac Ionawr, gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r cyngor ym mis Mawrth.
Ond ar ôl trafod y sefyllfa gyda thrigolion, mae'r Cynghorydd Jones yn galw am un cam ychwanegol.
"Dwi'n gwybod bod swyddogion y cyngor wedi bod yn ymweld hefyd ac mae fy nghyd-gynghorwyr wedi bod yn ymweld," meddai.
"Ond dwi'n meddwl rŵan bod hi'n bwysig ein bod ni'n cael cyfarfod cyhoeddus yn fuan, achos mae hynny'n ffordd arall i'r cyhoedd gal gwybod be' sy'n mynd 'mlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2017