Brexit caled yn 'drychinebus' i'r gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallai Brexit sy'n golygu gadael y farchnad sengl fod yn "drychinebus" i'r gwasanaeth iechyd ac achosi "effaith andwyol" yn benodol i Gymru.
Daw'r rhybudd gan academydd iechyd blaenllaw, sy'n dweud bod Brexit caled neu heb gytundeb yn "fygythiad real" i ofal iechyd, ac y gallai cleifion fod mewn "perygl...o'r diwrnod cyntaf".
Mae Nick Fahy, sy'n ymgynghorydd i adran iechyd Llywodraeth y DU ac yn cynghori Pwyllgor Iechyd Tŷ'r Cyffredin, hefyd yn rhybuddio y gallai ysbytai mawr Llundain gymryd staff o Gymru os bydd Brexit yn arwain at brinder gweithwyr.
Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, yn mynnu mai un o'r prif nodau yn ystod trafodaethau Brexit yw sicrhau bod gofal iechyd yn cael ei ddarparu'n "llyfn".
Effaith 'andwyol'
Mae'r mwyafrif o economegwyr yn darogan y bydd gadael yr UE yn niweidio'r economi, gyda'r effeithiau'n fwy difrifol os bydd Prydain yn gadael y farchnad sengl.
Dywedodd Mr Fahy: "Dydyn ni ddim yn edrych ar hyn o sefyllfa o gryfder.
"Rydyn ni yn edrych ar hyn o sefyllfa lle rydyn ni yn ochneidio mewn rhyddhad bob gaeaf ein bod ni wedi llwyddo i oroesi gaeaf arall a bod y GIG heb ddymchwel."
Gallai'r sgil effaith ar wariant iechyd yng Nghymru fod yn "andwyol" meddai, gan fod Llywodraeth Cymru yn gwario hanner o'i chyllideb ar iechyd a gofal, ac oherwydd hynny gall fod yn anoddach torri mewn meysydd eraill.
Dadl Mr Fahy yw y byddai unrhyw doriadau i'r pwrs cyhoeddus yn "drychinebus" i'r GIG ar draws Prydain.
Dywedodd y gallai cleifion wynebu oedi hirach cyn cael triniaeth.
"Dwi'n meddwl y byddai'n golygu cynnydd mawr yn yr oedi ar draws bob maes lle mae'n bosib gwneud hynny... mewn gofal sy'n barhaus, gofal ataliol, llawdriniaeth ddewisol - yr holl bethau yna mae pobl yn disgwyl yn rhy hir yn barod."
'Llogi' staff o Gymru
Prydain yw'r wlad fwyaf dibynnol ar weithwyr iechyd tramor o fewn yr UE.
Os byddant yn gadael neu'n peidio dod i Brydain, gallai olygu "toriadau staffio sylweddol" meddai Mr Fahy, a hynny mewn cyfnod pan mae swyddi gwag yn bodoli'n barod.
Mae'n cydnabod y gallai'r effaith fod yn llai yng Nghymru, gan fod ymchwil gan BBC Cymru yn awgrymu mai 2% o weithwyr o'r UE sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, o'i gymharu â 10% yn Llundain.
Yn yr hir dymor gallai olygu bod ardaloedd mwy cefnog Prydain yn "llogi" staff o ardaloedd mwy difreintiedig i lenwi'r bylchau.
Er mwyn lleddfu hyn, byddai angen i'r GIG gynyddu nifer y gweithwyr iechyd sy'n cael eu hyfforddi ym Mhrydain, a byddai hynny'n golygu "buddsoddiad gwirioneddol".
"Siarad yn blaen, os nad yw Lloegr yn buddsoddi digon mewn hyfforddi doctoriaid a nyrsys ar gyfer y GIG yn Lloegr - does dim ots os yw Cymru'n buddsoddi mewn hyfforddi gweithwyr ar gyfer GIG Cymru.
"Achos os na wnaiff Lloegr fuddsoddi, fe wnân nhw fenthyg pobl fyddai fel arall yn gweithio yng Nghymru."
Cyfleoedd Brexit
Mae eraill yn y maes hefyd yn pryderu, gan gynnwys Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Powys, sy'n dweud bod problemau recriwtio'n bodoli'n barod ac y gallai fod yn fwy o broblem i'r sector gofal cymdeithasol.
Mae'r rhai sydd o blaid Brexit yn gweld y cyfleoedd i ail-fuddsoddi arian sydd wedi ei anfon i Frwsel i'r gwasanaethau cyhoeddus, ac i deilwra polisïau i Brydain heb reoliadau'r UE.
Yn ôl Ms Shillabeer gallai Brexit fod yn ysgogiad ar gyfer newidiadau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
"Mae yna gyfle go iawn i Gymru weithio'n fwy cydweithredol ynglŷn â sut y bydd gweithlu'r dyfodol yn edrych," meddai.
Ychwanegodd bod y "cyfrifoldeb ar Gymru i wneud ymdrech i wella'r hyn rydyn ni'n gwneud".
Maes arall allai gynnig mwy o hyblygrwydd yw'r rheolau ynglŷn â phrynu nwyddau a gwasanaethau.
Yn ôl Mr Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, un o'r prif amcanion yw gwneud yn siŵr bod gofal iechyd yn parhau i gael ei ddarparu'n "llyfn".
Dywedodd hefyd bod hi'n "hollbwysig bod y diwydiant fferyllol yn parhau i fod yn hyderus buddsoddi yng Nghymru" a bod yr amodau yn "ffafriol" er mwyn "cael mynediad at y meddyginiaethau diweddaraf".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd1 Awst 2017