Y Frenhines a datganoli: 'Cefnogodd y Cynulliad yn llawn'

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines a'r Arglwydd Dafydd Elis-ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines a'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - Llywydd y Cynulliad ar y pryd - yn ystod agoriad y Senedd yn 2007

Roedd y Frenhines yn barod o'r cychwyn cyntaf i roi ei bendith frenhinol ar y Cynulliad a Senedd Cymru, yn ôl y Llywydd cyntaf yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Roedd ei hymrwymiad wedi dechrau yn y 70au.

Yn 1977 cafodd mesurau ar wahân eu cyflwyno ar gyfer Cymru a'r Alban i baratoi'r ffordd ar gyfer refferenda datganoli.

Yn ei haraith Jiwbilî yn San Steffan yn 1977 dywedodd y Frenhines: "Mae cymhlethdodau gweinyddiaeth fodern - y teimlad bod Llywodraeth y DU yn rhy ynysig oddi wrth fywydau dynion a menywod cyffredin - wedi helpu i adfywio ymwybyddiaeth o hunaniaeth genedlaethol.

"Mae hyn felly'n gefndir i'r drafodaeth frwd a pharhaus am gynigion ar gyfer datganoli yn Yr Alban a Chymru o fewn y Deyrnas Unedig.

"Rwy'n cyfri' brenhinoedd a breninesau Lloegr a'r Alban a thywysogion Cymru ymhlith fy nghyndeidiau, felly rwy'n deall y dyheadau hyn yn iawn."

Ychwanegodd: "Ond ni allaf anghofio fy mod wedi cael fy nghoroni yn Frenhines Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon."

'Cydnabyddiaeth o ddatganoli'

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas bod angen iddi ategu'r frawddeg olaf "er mwyn cydbwyso ei chydnabyddiaeth o ddatganoli" gan ddweud fwy neu lai "beth bynnag ddaw, fi fydd eich Brenhines chi o hyd".

Yn 1997 pleidleisiodd Cymru, o drwch blewyn, o blaid datganoli.

Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines wnaeth agor y Cynulliad cyntaf yng Nghaerdydd yn 1999

Ar 26 Mai 1999 cyrhaeddodd y Frenhines gyda Dug Caeredin a'r Tywysog Charles ar gyfer agoriad cartref cyntaf y Cynulliad yn Nhŷ Hywel.

Llofnododd rifyn arbennig o Ddeddf Llywodraeth Cymru, oedd yn symbol o drosglwyddo pwerau o San Steffan i'r Cynulliad.

Yn ei haraith dywedodd y Frenhines: "Mae'r agoriad yma heddiw yn nodi cyfeiriad newydd ac arwyddocaol yn y ffordd y mae Cymru yn cael ei llywodraethu.

"Mae'n foment o adnewyddu sy'n driw i ysbryd Cymru."

'Gweld Cymru'n datblygu'

Dywedodd Alun Michael, Prif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad yn 1999: "Roedd y ffaith bod y Frenhines yma yn agor y Cynulliad cyntaf yn dangos pwysigrwydd hyn.

"Roedd hi'n wybodus iawn am bwysigrwydd y Cynulliad i Gymru a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn gyffredinol.

"Y ffaith yw ei bod hi drwy'r degawdau wedi gweld y ffordd roedd pethau'n datblygu yma yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Frenhines agor pumed tymor y Cynulliad yn 2016

Fe wnaeth y Frenhines agor bob un o'r pum seremoni agoriadol, gyda phob seremoni'n datblygu wrth i'r Cynulliad ymgartrefu yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Agorodd adeilad newydd y Senedd yn 2006.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Fe gefnogodd y Frenhines y Cynulliad yn llawn.

"Byddai'n cyflawni ei dyletswyddau o agor y Cynulliad yn yr un modd ag agoriad brenhinol San Steffan.

"Roedd ymgynghorwyr y frenhiniaeth a'r Frenhines ei hun, yn ogystal â Thywysog Cymru a gweddill y teulu, yn deall yn arbennig o dda popeth sydd wedi bod yn digwydd yng Nghymru.

"Cyflawnodd y Frenhines ei dyletswyddau fel pennaeth y wladwriaeth ac fel pennaeth y teulu yn ddyfal ac yn gadarn."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines gyda'r Llywydd presennol, Elin Jones, ar agoriad swyddogol chweched sesiwn y Senedd ym mis Hydref 2021

Ym mis Hydref 2021, ar ei hymweliad olaf â Chymru, fe agorodd chweched sesiwn y Senedd - y Cynulliad gynt - yn swyddogol mewn seremoni fer ym Mae Caerdydd.

Dyma oedd ei hymweliad cyntaf i Gymru ers 2016, ac yn addas iawn, ei geiriau cyhoeddus olaf yng Nghymru oedd "diolch o galon".