'Cymrawd a ffrind': Teyrngedau i Carl Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd munud o dawelwch ar ddechrau'r sesiwn o deyrngedau

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi disgrifio marwolaeth Carl Sargeant fel "colled enfawr ac ysgytwad enbyd", wrth roi teyrnged iddo yn y Senedd.

Cafwyd munud o dawelwch yn y Siambr cyn dechrau'r sesiwn ddydd Mawrth, wrth i Aelodau Cynulliad ymgynnull am y tro cyntaf ers marwolaeth y cyn-weinidog.

Dywedodd y Llywydd Elin Jones fod marwolaeth Mr Sargeant wedi "ein hysgwyd i'n seiliau".

Fe wnaeth nifer o ACau eraill ddweud gair o gofio iddo, gan gynnwys y gweinidog Lesley Griffiths a ddywedodd mai Mr Sargeant oedd ei "chymrawd a ffrind gorau".

Roedd teulu Mr Sargeant yn y Senedd i wrando ar y teyrngedau.

carwyn jones

Wrth ddechrau siarad fe wnaeth Mr Jones fynegi ei gydymdeimlad gyda theulu Carl Sargeant, gan ddweud nad oedd yn gallu "dychmygu beth mae nhw'n mynd drwyddo".

Ychwanegodd na chafodd e a Mr Sargeant "air croes rhyngom ni yn yr holl flynyddoedd roedden ni'n 'nabod ein gilydd", gan ganmol ei sgiliau fel prif chwip yn y llywodraeth.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod y Cynulliad wedi "colli cydweithiwr a cholli ffrind".

"Roedd e'n dal y swyddi yna [yn y cabinet] gyda balchder ac angerdd anferth," meddai.

andrew rt

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod ei "ddilysrwydd" a'i gysylltiad gyda'i wreiddiau yn rhan annatod o apêl Carl Sargeant.

Ychwanegodd Neil Hamilton o UKIP ei fod yn "ddyn y bobl".

'Torri ein calonnau'

Cafwyd teyrnged deimladwy hefyd gan Lesley Griffiths, un o gyd-ACau Llafur Mr Sargeant yn y gogledd ddwyrain.

"Carl oedd un o'r bobl mwyaf clên dwi erioed wedi'i gyfarfod," meddai.

Ychwanegodd: "Rydw i'n gwybod ei fod yn fy ngharu i fel chwaer... rydyn ni'n torri ein calonnau nad yw gyda ni bellach."

lesley griffiths

Dywedodd AC De Clwyd, Ken Skates fod gan Mr Sargeant "synnwyr digrifwch gwych".

"Beth mae e wedi'i adael i ni yw'r dyhead i edrych ar ôl ein gilydd yn well."

Ychwanegodd Alun Davies: "Y peth mwyaf amdano oedd mod i'n gallu ymddiried ynddo fe - roedd e wastad yno. Dyn diffuant ac anrhyddeddus a ffrind i fi.

"Ro'dd e'n credu'n gryf mewn chwarae teg a chyfiawnder cymdeithasol."

alun davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alun Davies AC yn emosiynol iawn wrth roi teyrnged i Carl Sargeant

Dywedodd AC Preseli Penfro, Paul Davies ei fod "wastad yn bleser bod yn ei gwmni".

"Roedd e'n hwyl i fod gydag e ac roedd yna fflach yn ei lygad," meddai.

Ychwanegodd Simon Thomas AC ei fod yn ffrind triw ac yn gymeriad bywiog a doniol: "Roedd e'n atgoffa fi o fy nheulu i - ac yn cynrychioli'r dosbarth gweithiol.

"Roedd e'n gwbl o ddifrif am yr hyn a gredai."

Ar ddiwedd y sesiwn dywedodd y Llywydd Elin Jones y bydd "gwaddol Carl yn cyffwrdd â phobl ar draws y wlad am flynyddoedd i ddod".

simon thomas

Daeth marwolaeth Mr Sargeant bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet, yn dilyn honiadau o ymddwyn yn amhriodol gyda menywod.

Roedd AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Clywodd cwest ddydd Llun mai crogi oedd achos ei farwolaeth, yn ôl dyfarniad cychwynnol gan y crwner.

Mae'r prif weinidog wedi addo ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo fel ysgrifennydd cymunedau, a'i wahardd o'r Blaid Lafur.

Ers marwolaeth Mr Sargeant mae rhai cyn-aelodau blaenllaw o Lywodraeth Cymru wedi disgrifio "awyrgylch wenwynig" o fwlio tra roedden nhw yno.

Ond mae aelodau eraill o'r llywodraeth ar y pryd wedi dweud ers hynny nad ydyn nhw'n adnabod y darlun hwnnw.