Dim achubiaeth i gartref gofal yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
BodlondebFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cartref Bodlondeb wedi bod yn gwneud colled o oddeutu £400,000 y flwyddyn

Mae'n ymddangos fod y frwydr i atal cabinet Cyngor Ceredigion rhag cau cartref gofal preswyl yn Aberystwyth wedi cyrraedd pen y daith yn aflwyddiannus.

Gwrthododd aelodau o bwyllgor dylanwadol o'r cyngor gais gan rai cynghorwyr i geisio mynd â'r mater i'r cyngor llawn.

Mewn cyfarfod ar 7 Tachwedd fe wnaeth y cabinet benderfynu i gau Bodlondeb erbyn Mawrth 2018.

Penderfynodd aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach (o naw pleidlais i saith) wrthod cynnig fyddai'n golygu byddai'n rhaid i'r penderfyniad fynd o flaen y Cyngor Llawn.

Mae Undeb y GMB wedi gwrthwynebu'r bwriad i gau gan ddweud y byddai yn creu "bwlch mawr" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yn y canolbarth.

Bu hefyd gorymdaith drwy Aberystwyth yn gwrthwynebu'r bwriad i gau.

Nododd adroddiad gan swyddogion Cyngor Ceredigion fod y cartref wedi bod yn gwneud colledion o hyd at £400,000 y flwyddyn - mwy na £7,600 yr wythnos.