Agor ffatri newydd i creu 150 o swyddi yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae ffatri prosesu ieir newydd, all greu 150 o swyddi, yn agor yn Wrecsam.
Mae ffatri Maelor Foods yn agor ar gyn-safle First Milk, caeodd y safle yna yn 2014.
Eisoes, mae'r ffatri wedi creu 70 o swyddi, ac mae'r cwmni yn chwilio am fwy o weithwyr.
Y gobaith yw cyflogi 150 o bobl yn y pen draw, gyda mwy o swyddi'n cael eu cefnogi yn yr ardal wrth i ffermwyr lleol gyflenwi'r safle.
Buddsoddiad £20m
Yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr, Raj Mehta: "Yn ogystal â chreu swyddi i bobl leol yn ystod adnewyddu'r adeilad, rydym yn falch o gefnogi'r gadwyn gyflenwi yn ehangach gyda'r sector amaethyddol."
Mae £20m wedi ei fuddsoddi yn y safle newydd gan gwmni Maelor Foods, sy'n rhan o gwmni prosesu Salisbury Poultry o ganolbarth Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o £3.15m o'r cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd i'r safle.
Bydd yr Aelod Cynulliad lleol, Lesley Griffiths, sydd hefyd yn ysgrifennydd cabinet â chyfrifoldeb am faterion gwledig, yr ysgrifennydd dros yr economi a thrafnidiaeth, Ken Skates, ynghyd â Maer Wrecsam, y Cynghorydd John Pritchard yn ymweld â'r safle ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2017