'Pryder' Kirsty Williams am ffi £10,000 Clive Woodward
- Cyhoeddwyd
Mae Kirsty Williams wedi mynegi ei "phryder" ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod cyn-hyfforddwr rygbi Lloegr wedi cael ei dalu £10,000 i siarad mewn cynhadledd addysg.
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wrth ACau ddydd Mercher y byddai'n cwrdd â phennaeth corff addysg GwE i drafod y mater.
Cafodd Syr Clive Woodward ei dalu o leiaf £10,000 am siarad mewn cynhadledd yn Llandudno ym mis Gorffennaf.
Dywedodd GwE eu bod wedi gwahodd siaradwyr gwadd oedd yn gallu ffurfio a hybu timau llwyddiannus.
'Swm mor uchel'
Cafodd is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts hefyd ei wahodd i siarad yn yr un gynhadledd yn ei amser ei hun.
Y gred yw ei fod yn dal i ddisgwyl derbyn ei ffi o £500 am y digwyddiad.
Dywedodd GwE, sydd yn ceisio gwella safonau addysg yng ngogledd Cymru, eu bod wedi gwario cyfanswm o £20,875 ar y digwyddiad.
Gyda 125 o bobl yn mynychu, medden nhw, roedd hynny gyfystyr â £167 yr un.
Ond dywedodd Ms Williams fod ganddi bryderon fod "swm mor uchel o arian" wedi ei wario.
"Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad gyda'r consortia i fynegi fy mhryder am y gwariant," meddai.
"Byddaf yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r rheolwr gyfarwyddwr yn fy sesiwn herio-ac-adolygu, sydd yn digwydd 'fory yn Llandudno."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio'r taliad gafodd ei wneud i Mr Woodward fel un "anhygoel".