Y Frenhines Elizabeth II 'fyth yn swil' am ei ffydd

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines yn Llandaf, 2012Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Frenhines ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 2012

Ddydd Sul ddiwrnod cyn angladd y Frenhines Elizabeth II bydd nifer o wasanaethau a gweddïau ar draws Cymru yn cofio am ei chyfraniad.

Ar hyd teyrnasiad y Frenhines Elizabeth II, doedd hi "fyth yn swil" wrth sôn am ei ffydd, yn ôl cyn-Archesgob Cymru Barry Morgan.

Fel Goruchaf Lywodraethwr Eglwys Lloegr, bu ei ffydd yn graig iddi ar adegau o lawenydd ac yn ystod yr adegau anodd.

Dywedodd Dr Morgan: "Roedd hi wastad yn cofio ei bod wedi gwneud y llw i Dduw i fod yn Frenhines.

"Yn ei hareithiau Nadolig blynyddol roedd pwysigrwydd ei ffydd yn amlwg, wrth iddi bwysleisio rôl crefydd yn ei bywyd bob dydd."

Bu Dr Morgan yn Archesgob Cymru am bron i 14 mlynedd, a daeth i adnabod y Frenhines yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyn-Archesgob nad oedd y Frenhines "fyth yn swil pan yn sôn am ei ffydd"

Er bod yr Eglwys yng Nghymru wedi'i datgysylltu, croesawodd y cyn-Archesgob y Frenhines ac aelodau'r teulu brenhinol i Gymru ar sawl achlysur.

Un o'r ymweliadau oedd gwasanaeth aml-ffydd gafodd ei gynnal ym Mae Caerdydd ym mis Mehefin 2003 i adlewyrchu natur aml-ddiwylliannol Bae Caerdydd.

'Croesawgar'

Dywedodd Dr Morgan: "Roedd hi wastad yn raslon a chroesawgar ac mae'n amlwg ei bod hi'n ddigon hapus dod i'r gwasanaeth aml-ffydd neu mi fyddai'r palas wedi gwrthwynebu."

Fe wnaeth y Frenhines ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf bedair gwaith yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys gwasanaeth diolchgarwch yn 1960 ac wrth ddathlu ei Jiwbilî Arian yn 1977.

Yn 1999 roedd gwasanaeth i gyd-fynd ag agoriad swyddogol y Cynulliad, ac yn 2012 daeth y Frenhines a Dug Caeredin yn ôl fel rhan o daith y Jiwbilî Ddiemwnt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines ar ei hymweliad cyntaf â Llandaf yn 1960

Dywedodd cyn-Lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod "ffydd y Frenhines wastad wedi gwneud argraff fawr arna i".

"Roedd hi'n teimlo yn ei chalon yr awydd i wasanaethu pobl a'i bod, mewn gwirionedd, wedi cael ei chysegru i'r swydd," meddai.

"Nid sioe oedd ei defosiwn - roedd hi'n cymryd diddordeb yn y pregethau."

'Meddwl am y wên'

Roedd y Frenhines yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac un o'i hoff draddodiadau oedd dosbarthu arian cablyd - maundy money- ar Ddydd Iau Cablyd.

Yn 1982 tro Tyddewi oedd hi i gynnal y seremoni hynafol, ac yn 1995 fe wnaeth y Frenhines gyflwyno breintlythyr wrth i Dyddewi gael ei chydnabod fel dinas.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas bod ffydd y Frenhines wedi gwneud argraff fawr arno

Cafodd Dr Morgan hefyd wahoddiad gan y Frenhines i bregethu yn Sandringham.

"Roedd hynny yn gryn fraint, ac fe wnaeth i mi deimlo'n gwbl gartrefol," meddai.

Byddai esgobion yn cael eu gwahodd i roi pregeth breifat yn Eglwys St Mary Magdalene ar dir Ystâd Sandringham yn Norfolk.

Ychwanegodd Dr Morgan: "Byddai wastad yn meddwl amdani fel person oedd yn disgleirio pan fyddech yn ei gweld hi.

"Wrth gofio amdani fe fyddai'n meddwl am y wên yna."