Galw am 'bolisi yswiriant' ar ddeddfwriaeth Brexit
- Cyhoeddwyd
Bydd Plaid Cymru yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno "polisi yswiriant" cyfreithiol oni bai fod newidiadau yn cael eu gwneud i ddeddfwriaeth Brexit Llywodraeth y DU.
Dywedodd Steffan Lewis y dylai 'Mesur Dilyniant' arfaethedig gael ei gyflwyno yn y Cynulliad i "amddiffyn ein cyfansoddiad".
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud fod Bil Ymadael â'r UE Llywodraeth y DU yn ymgais i "gipio pwerau" oddi wrth y sefydliadau datganoledig.
Dywedodd Mr Jones fod ei swyddogion wedi paratoi Mesur Dilyniant, ond y byddai'n well ganddo weld newid i'r ddeddfwriaeth yn San Steffan.
'Partneriaeth'
Mae llywodraethau Cymru a'r Alban eisoes wedi awgrymu gwelliannau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ac fe fyddan nhw'n cael eu trafod yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun 4 Rhagfyr.
Wrth roi tystiolaeth i bwyllgorau Cynulliad ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog fod pob un o'r newidiadau arfaethedig yn "linellau coch".
"Mae Mesur [Dilyniant] wedi ei baratoi, mae'r gwaith wedi'i wneud ond byddai dal well gennym ni ein bod ni'n cyrraedd pwynt ble mae'n gwelliannau ni'n cael eu derbyn ac na fydd angen Mesur Dilyniant arnom ni," meddai Mr Jones.
"Os nad yw hynny'n digwydd dyna fyddai'r adeg i ystyried cyflwyno Mesur Dilyniant."
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n bosib cyflwyno deddfwriaeth amgen yn y Cynulliad, ond y byddai'n "rhaid i'r Mesur Dilyniant basio drwy'r Cynulliad a chael Cydsyniad Brenhinol cyn i'r Bil Ymadael fynd drwy'r ddau dŷ yn San Steffan".
Ychwanegodd fod ei lywodraeth yn cefnogi Bil Ymadael â'r UE - fydd yn trosglwyddo deddfau'r Undeb Ewropeaidd i rai'r DU - mewn egwyddor, ond nid o ran y manylion presennol.
"Rydyn ni'n rhannu'r un cyrchfan ond natur y siwrne sy'n ein poeni ni - dylai fod yn siwrne sydd yn digwydd mewn partneriaeth, nid rhywbeth sy'n cael ei orfodi," meddai.
Hawliau a safonau
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Steffan Lewis fod y Cynulliad wedi rhoi caniatâd iddo orfodi pleidlais ym mis Ionawr ar gyflwyno Mesur Dilyniant ai peidio.
"Ond bydden i'n annog [Llywodraeth Cymru] i gyflwyno hynny yn eu hamser eu hunain os yw Bil Ymadael â'r UE yn bwrw 'mlaen... gyda'r elfennau gwrth-ddatganoli dal ynddo," meddai.
"Wrth i realiti'r broses yn San Steffan ddod i'r amlwg mae'n glir fod wir angen Mesur Dilyniant fel polisi yswiriant, nid yn unig i amddiffyn ein cyfansoddiad ond i warchod hawliau a safonau mewn meysydd datganoledig sydd yn deillio o ddeddfau a rheolau'r UE."