Hadleigh Parkes yn dechrau i Gymru yn erbyn De Affrica
- Cyhoeddwyd
Bydd canolwr y Scarlets, Hadleigh Parkes yn ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.
Cafodd y canolwr 30 oed ei eni a'i fagu yn Seland Newydd, ond mae'n gymwys i gynrychioli Cymru am ei fod wedi byw yma ers tair blynedd.
Dim ond ar ddydd Sadwrn y bydd Parkes yn cwblhau ei gyfnod preswyl, wedi iddo ymuno â'r Scarlets yn 2014.
Bydd Scott Andrews yn dechrau fel prop pen-tynn, gyda'r holl opsiynau eraill - Leon Brown, Samson Lee a Tomas Francis - ddim ar gael.
Mae Cory Hill yn cymryd lle Jake Ball yn yr ail-reng, wedi i glo'r Scarlets ddatgymalu ei ysgwydd yn y golled yn erbyn Seland Newydd.
Caerfaddon yn wynebu dirwy
Mae Aled Davies yn dechrau fel mewnwr, mewn tîm sydd wedi'i effeithio'n fawr gan anafiadau.
Mae nifer o chwaraewyr sy'n chwarae yn Lloegr wedi gorfod dychwelwyd i'w clybiau hefyd am fod y gêm ddydd Sadwrn yn digwydd y tu allan i'r calendr rhyngwladol swyddogol.
Bydd Taulupe Faletau yn dechrau i Gymru ar ôl cael caniatâd gan Gaerfaddon, ond mae'n bosib y bydd ei glwb yn cael dirwy gan y gynghrair am ei ryddhau.
Yn y cyfamser, mae De Affrica wedi gwneud pum newid i'r tîm drechodd Yr Eidal yr wythnos ddiwethaf, gyda'r prop Tendai Mtawarira yn methu allan oherwydd anaf.
Mae Cymru wedi ennill dwy o'r tair gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad, ar ôl ennill dim ond un o'r 29 cyn hynny.
Tîm Cymru:
Leigh Halfpenny; Hallam Amos, Scott Williams, Hadleigh Parkes, Steff Evans; Dan Biggar, Aled Davies; Rob Evans, Kristian Dacey, Scott Andrews, Cory Hill, Alun Wyn Jones (c), Aaron Shingler, Josh Navidi, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Rhodri Jones, Seb Davies, Dan Lydiate, Rhys Webb, Rhys Patchell, Owen Watkin.
Tîm De Affrica:
Andries Coetzee; Dillyn Leyds, Jesse Kriel, Francois Venter, Warrick Gelant; Handré Pollard, Ross Cronje; Steven Kitshoff, Malcolm Marx, Wilco Louw, Eben Etzebeth (c), Lood de Jager, Siya Kolisi, Pieter-Steph du Toit, Dan du Preez.
Eilyddion: Bongi Mbonambi, Trevor Nyakane, Ruan Dreyer, Oupa Mohoje, Uzair Cassiem, Louis Schreuder, Elton Jantjies, Lukhanyo Am.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017