Cyfres yr Hydref: Cymru 24-22 De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Hadleigh ParkesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Hadleigh Parkes ddim yn gymwys i gynrychioli Cymru nes diwrnod y gêm

Hadleigh Parkes oedd seren y gêm ar ei gap cyntaf, gan sgorio ddwywaith wrth i Gymru drechu De Affrica mewn gêm agos yng Nghaerdydd.

Aeth Cymru ar y blaen o fewn pum munud, wrth i gic dda gan Dan Biggar i lwybr Hallam Amos agor amddiffyn y Springboks, gan arwain at gais i'r canolwr Scott Williams.

Ychwanegodd Parkes gais arall o fewn munudau yn dilyn cic dda arall gan Biggar dros amddiffyn De Affrica.

Aeth yr ymwelwyr ar y sgorfwrdd am y tro cyntaf gyda chic gosb gan Handre Pollard, cyn i Parkes ychwanegu ei ail gais ar ôl i Biggar lwyddo i rwystro cic amddiffynnol.

Ond fe wnaeth De Affrica daro 'nôl cyn hanner amser, gyda Warrick Gelant yn cyrraedd cic Jesse Kriel am gais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Leigh Halfpenny sgoriodd y pwyntiau buddugol i Gymru

Fe wnaeth yr ymwelwyr ddechrau'r ail hanner fel y gorffennon nhw'r cyntaf, wrth i'r maswr Handre Pollard groesi am gais cyn taro'r pyst gyda'i drosiad.

Ychwanegodd Kriel gais ar ôl 56 munud, ac roedd Pollard yn llwyddiannus gyda'r trosiad o'r ystlys i roi'r Springboks ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, o 22-21.

Ond fe sgoriodd Leigh Halfpenny'r pwyntiau allweddol, wrth iddo lwyddo gyda chic gosb gyda 14 munud yn weddill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Handre Pollard 12 pwynt gyda chais a thair cic