Gwleidyddion Cymru yn croesawu cytundeb Brexit

  • Cyhoeddwyd
Theresa May a Jean-Claude JunckerFfynhonnell y llun, EPA

Mae gwleidyddion Cymru wedi croesawu'r newyddion fod y prif weinidog Theresa May wedi cyrraedd cytundeb funud olaf gyda'r Undeb Ewropeaidd i symud trafodaethau Brexit ymlaen i'r cam nesaf.

Mae Mrs May wedi addo "cysoni rheolau yn llawn" er mwyn osgoi creu ffin galed yn Iwerddon.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae'r job wedi ei wneud ac ry'n ni ymlaen i'r cymal nesaf."

Ond dywedodd yr AS Llafur Stephen Doughty fod cysoni'r rheolau yn llawn yn "swnio fel aros yn yr Undeb Dollau a'r Farchnad Sengl i mi".

Mewn cynhadledd i'r wasg yn gynnar fore Gwener dywedodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker fod misoedd o drafodaethau wedi arwain at "dorri trwy rwystr" ac y gallai'r trafod am fasnachu rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit nawr ddechrau.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo gwarantu cysondeb llawn yn y rheolau rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, os na fydd hynny'n digwydd beth bynnag yn y cytundeb masnachu a ddaw yn y pen draw rhwng y DU a'r UE.

'Trafodaethau anodd'

Fe wnaeth Owen Smith - AS Llafur Pontypridd ac Ysgrifennydd Cysgodol Gogledd Iwerddon - drydar: "Newyddion da ein bod yn symud i gymal dau - a newyddion da bod y llywodraeth am unioni'r Undeb Dollau a'r Farchnad Sengl i'r DU gyfan fel modd o osgoi ffin galed."

Dywedodd plaid y DUP, a ddaeth â'r cytundeb gwreiddiol i ben ddydd Llun oherwydd eu gwrthwynebiad, bod "mwy o waith eto i wneud" ac y bydd eu pleidlais ar y cytundeb terfynol yn "dibynnu ar ei gynnwys".

Mae Mrs May yn dibynnu ar gefnogaeth y blaid er mwyn ennill pleidleisiau pwysig yn San Steffan.

Ddydd Gwener dywedodd Mr Juncker fod "canlyniad heddiw wrth gwrs yn gyfaddawd", gan ychwanegu bod y trafodaethau wedi bod yn anodd i'r DU ac i'r UE.

Cytunodd Theresa May bod cyrraedd cytundeb wedi golygu "rhoi a derbyn gan y ddwy ochr".

Dadebru

Dywedodd llefarydd Brexit Plaid Cymru, Steffan Lewis AC bod y trafodaethau wedi bod yn "ddadebriad sydyn" i Lywodraeth y DU.

"Wedi misoedd o fethu datgloi'r cymal nesaf, maen nhw wedi llwyddo ond drwy wneud cyfres o gonsesiynau," meddai.

"Fe gawn ni weld sut y gellid osgoi ffiniau caled yn Iwerddon a phorthladdoedd Cymru, ond mae'n hanfodol nad yw hynny'n digwydd."

Ychwanegodd y bydd Plaid Cymru yn pwyso'n galed achos Cymru i barhau yn yr Undeb Dollau a'r Farchnad Sengl.