Tîm achub mynydd i arbrofi gyda dronau ac offer sonar
- Cyhoeddwyd
Mae Tîm Achub Mynydd Aberhonddu am dreialu technoleg newydd fel dronau ac offer sonar, ar ddiwedd blwyddyn fwyaf prysur y gwasanaeth erioed.
Eu gobaith yw y gallai'r offer diweddaraf wella eu hymateb i alwadau brys.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn recriwtio saith o wirfoddolwyr ychwanegol mewn ymateb i'r galw cynyddol am gymorth yn Aberhonddu.
Mae timau achub ar draws Cymru wedi gweld cynnydd tebyg yn nifer y galwadau brys. Un o'r ffactorau posib am hynny yw mwy o ddiddordeb yn gyffredinol mewn gweithgareddau awyr agored.
Hyd at yr wythnos diwethaf, roedd tîm Aberhonddu wedi treulio 4,784 o oriau yn cynnal 122 o gyrchoedd chwilio ers dechrau 2017.
Mae hynny'n cymharu â 121 o gyrchoedd chwilio yn 2016.
Cymharu mapiau
Eglurodd dirprwy arweinydd y tîm Dave Coombes bod modd addasu'r dechnoleg sonar mae pysgotwyr yn ei defnyddio er mwyn mapio a chofnodi mannau peryglus afonydd.
Dywedodd: "Pan fyddan ni'n chwilio mewn ardal fe allen ni gymharu'r mapiau sydd gyda ni â'r sefyllfa ar ddiwrnod y digwyddiad a gweld os oes 'na unrhyw beth anghyson all ein cyfeirio i le ddylien ni chwilio."
Yng ngogledd Cymru, ar ôl ymateb i 220 o alwadau, mae Tîm Achub Mynydd Llanberis eisoes yn gwybod mai eleni oedd eu blwyddyn fwyaf prysur eto er bod tair wythnos o 2017 ar ôl.
Mae Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn, sy'n gwasanaethu rhannau o Eryri a gogledd orllewin Cymru, wedi delio â 70 o ddigwyddiadau ers Ionawr, o'i gymharu â tua 50 yn 2016.
Mae Tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru wedi delio â 78 o ddigwyddiadau o'i gymharu â 55 y llynedd, tra bod Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi, sy'n gwasanaethu Eryri a chanolbarth Cymru, wedi eu galw i 43 o ddigwyddiadau hyd yma, o'i gymharu â 40 yn 2016.
Dywedodd Dave Williams o dîm Aberglaslyn y dylai pobl baratoi'n well cyn mentro i'r mynyddoedd ac i beidio â dibynnu ar ffonau symudol.
Yn ôl cadeirydd achubwyr mynydd Llanberis John Grisdale, mae diffyg profiad ac offer addas dal yn broblem.
Cynnydd 'i'w ddisgwyl'
Mae 2017 hefyd wedi gweld cynnydd yn y galwadau i Dîm Achub Mynydd y Bannau - 135 hyd yma, o'i gymharu â 110 drwy 2016.
Dywedodd llefarydd bod cynnydd i'w ddisgwyl gan bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Ond mae yna hefyd fwy o alwadau i chwilio am bobl sydd mewn gwewyr ac i achub anifeiliaid.
Cafodd y tîm ergyd ym mis Tachwedd ar ôl i dân achosi gwerth £250,000 o ddifrod i'w bencadlys yn Nowlais.
Mae gwirfoddolwyr yn defnyddio'u ceir ac offer eu hunain er mwyn i'r gwasanaeth barhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2017