Cyfradd diweithdra yn codi i 4.7% yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
gwaithFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod cyfradd diweithdra yng Nghymru wedi codi i 4.7%.

Mae'r ffigwr yng Nghymru yn uwch na'r cyfartaledd ledled y DU, sy'n 4.3%.

Cymru sydd hefyd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn diweithdra o holl ranbarthau'r DU - ffigwr gododd 6,000 i 71,000 yn y cyfnod rhwng mis Mai a Gorffennaf.

Wrth gymharu â'r ffigyrau ar yr un cyfnod y llynedd, Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae lefel diweithdra wedi codi.

Roedd y cwymp mwyaf mewn diweithdra yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban.

Mae diweithdra yn y DU yn parhau i fod ar ei lefel isaf ers 1975.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price AC, fod y ffigyrau'n "brawf fod yr economi yng Nghymru yn cymryd camau am yn ôl".

"Llai na chwe mis yn ôl, roedd lefel diweithdra yng Nghymru i lawr i 4%, ond eto, mae wedi cropian i fyny gydag ychydig iawn o dystiolaeth o dyfiant yn y cyfamser," meddai.