Perfformio carol newydd gyda geiriau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
cor Kings

Fe fydd carol newydd gyda geiriau Cymraeg yn cael ei pherfformio mewn un o gyngherddau mwyaf y Nadolig.

Mae Huw Watkins wedi cyfansoddi'r alaw ar gyfer 'Carol Eliseus' fydd yn rhan o gyngerdd Naw Llith a Charol o Goleg King's yng Nghaergrawnt ar noswyl Nadolig.

Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu'n fyw ar BBC Radio 4 ac ar orsafoedd eraill ledled y byd.

Tra bod Mr Watkins wedi cyfansoddi'r alaw, mae'r geiriau yn dod o un o ganeuon y plygain.

Cyn-archesgob Caergaint, Rowan Williams, wnaeth ddewis dau bennill i'w troi'n gyfansoddiad newydd ar gyfer y perfformiad.

'Rownd y byd'

Dywedodd Huw Watkins iddo deimlo tipyn o bwysau i gyfansoddi ar gyfer gwasanaeth sy'n denu diddordeb.

"Mae'n cael ei ddarlledu rownd y byd, mae nifer fawr o bobl yn gwrando arno.

"Felly roeddwn i eisiau ysgrifennu rhywbeth oedd yn hawdd i'w ddeall, ond hefyd yn adlewyrchu fy iaith a'n arddull cyfansoddi i."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ofynnodd Huw Watkins am help ei fam am nad yw'n siarad Cymraeg yn rhugl

Roedd Mr Watkins yn fyfyriwr israddedig yng ngholeg King's, ac roedd yn hapus iawn i dderbyn gwahoddiad i weithio gyda'r côr.

Cafodd wybod yn gynharach eleni bod trefnwyr y cyngerdd yn awyddus i gynnwys carol Gymraeg.

A gan nad yw Mr Watkins yn siarad Cymraeg yn rhugl, fe ofynnodd i'w fam i ddarllen y geiriau'n uchel er mwyn hwyluso'r broses o'u cyfuno a'i awdl newydd.

"Darllenodd mam y garol, ac mae gen i recordiad ohono yn rhywle. Ac roedd hynny hefyd yn help mawr i gôr coleg King's."

'Pleser ac anrhydedd'

Mae côr y coleg wedi canu yn Gymraeg yn weddol ddiweddar.

Yn ogystal â'r cyngerdd Naw Llith a Charol sy'n fyw ar y radio, mae'r côr yn cynnal gwasanaeth arall sy'n cael ei ddarlledu ar y teledu.

Y llynedd roedd yr hwiangerdd Suo Gân yn rhan o'r rhaglen.

Cymryd amser i gyfansoddi

Ar ôl clywed bod awydd i gynnwys mwy o Gymraeg eleni, dywedodd Mr Watkins iddo dreulio cryn dipyn o amser yn gweithio ar y darn.

"Mi wnes i dreulio o leiaf wythnos yn meddwl am y peth, sy'n gyfnod weddol hir ar gyfer darn sydd ddim ond ychydig funudau o hyd.

"Gan ei fod yn ddarn sy'n weddol fyr, mi ydych chi eisiau ei gael e'n berffaith gywir. Felly wnaeth hi gymryd peth amser i fi ddechrau ei gyfansoddi.

"Mae'r côr yn hynod o broffesiynol, ac i fi, fel rhywun sy'n eu nabod nhw yn weddol dda, roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd i gyfansoddi'r garol yma."

Mae carolau yn gallu troi'n glasuron, gydag ystod eang o gyfansoddiadau bellach yn gyfystyr â'r Nadolig.

Fe fydd Huw Watkins yn gobeithio gwneud argraff gyda'i gyfansoddiad newydd ar noswyl y Nadolig wrth iddo rannu llwyfan gyda rhai o garolau gorau'r genedl.