North a James yn dyweddïo dros y Dolig

  • Cyhoeddwyd
Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan george_north

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan george_north

Mae dau o sêr byd y campau yng Nghymru wedi cyhoeddi eu dyweddïad.

Cyhoeddodd asgellwr tîm rygbi Cymru George North ei fod wedi gofyn i'r seiclwraig Olympaidd Becky James ei briodi dros y Nadolig.

Ar ei gyfri Instagram, dywedodd North o Ynys Môn bod "fy annwyl ReBecky" wedi dweud "gwnaf".

Dywedodd James o'r Fenni ei bod hi'n teimlo fel y "ferch mwyaf lwcus yn y byd", ac na allai aros i briodi ei "ffrind gorau".

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd James, sydd wedi ennill medal arian yn y gemau Olympaidd, ei bod yn ymddeol o seiclo'n broffesiynol.

Bydd North yn dychwelyd i Gymru ar gytundeb deuol ar ôl cyhoeddi ym mis Tachwedd ei fod yn gadael clwb rygbi Northampton.