Arddangos Beibl Cymraeg 400 mlwydd oed ar ôl ei adfer

  • Cyhoeddwyd
Beibl Llanwnda
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Beibl wedi cael ei gadw dan amgylchiadau arbennig ers dwy flynedd

Bydd Beibl Cymraeg 400 mlwydd oed yn cael ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers dwy flynedd yn dilyn gwaith i'w gadw mewn cyflwr da.

Mae Beibl Llanwnda yn dyddio 'nôl i'r flwyddyn 1620, a'r hanes yw ei fod wedi cael ei achub rhag milwyr Ffrengig oedd wedi ceisio ei losgi yn 1797.

Eglwys Sant Gwyndaf ym mhentref Llanwnda, ger Abergwaun, sy'n berchen ar y llyfr.

Cafodd y Beibl ei gymryd o'r eglwys yn 2015 er mwyn i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gynnal gwaith arno i'w gadw mewn cyflwr da.

Bydd y llyfr yn cael ei arddangos trwy gydol mis Ionawr yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan.

Yna, fe fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn cynnal rhagor o waith i'w adfer, cyn iddo gael ei roi yn ôl i Eglwys Sant Gwyndaf o fewn chwe mis.

Yn ôl yr hanes, roedd milwyr o Ffrainc wedi ceisio dwyn o'r eglwys yn 1797 a llosgi'r Beibl.

Cafodd y llyfr ei achub, ond mae marciau amlwg o'i amgylch yn dangos lle ceisiodd y milwyr ei losgi.

Am ganrifoedd, cafodd y llyfr ei gadw yn yr eglwys cyn iddo gael ei ddarganfod mewn ystafell gefn wedi'i lapio mewn bag plastig yn yr 1990au.

"Doedd neb yn sylweddoli beth oedd e," meddai ficer presennol Eglwys Sant Gwyndaf, y Parchedig Sarah Geach.

"Cafodd cabinet ei adeiladu, ond wrth gwrs doedden nhw ddim yn gallu ei gadw dan yr amgylchiadau cywir, a dros amser fe ddechreuodd e ddirywio."

'Canrifoedd i ddod'

Penderfynwyd felly i'w roi i Brifysgol y Drindod i'w adfer, ac mae tua 60% o'r Beibl wedi goroesi hyd heddiw.

Dywedodd Dr Morgan-Guy, oedd yn arfer darlithio hanes eglwysig yn y brifysgol: "Pe bai wedi'i gadw yn Sant Gwyndaf, byddai dim ond wedi dirywio'n bellach oherwydd yr amgylchiadau.

"Pan fydd yn mynd yn ôl i'r eglwys yn ddiweddarach eleni, bydd yn cael ei gadw mewn cabinet sy'n gallu cadw'r un tymheredd a lleithder, a'r gobaith yw y bydd yn cael ei arddangos am nifer o ganrifoedd i ddod."