Mwy o arian at gymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth sy'n cefnogi cyn-aelodau o'r lluoedd arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi cael ei ehangu.
Bydd gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn derbyn £900,000 yn ychwanegol er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael cymorth gan therapyddion penodedig.
Cafodd 633 o bobl gymorth gan y gwasanaeth y llynedd, o'i gymharu â 191 yn 2010.
Dywedodd Tom Adamson, cyn-filwr 59 oed o Ynys Môn a gafodd yr anhwylder PTSD ar ôl gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, bod y "therapi wedi gwneud byd o les" iddo.
Ond mae therapydd seicolegol gyda'r gwasanaeth yn credu bod llawer o unigolion angen cymorth, sydd ddim eto wedi gofyn amdano.
Dywedodd Karen Hawkings: "Mae stigma o amgylch cael cefnogaeth iechyd meddwl a gall pobl fod yn ei chael hi'n anodd am ychydig flynyddoedd cyn iddyn nhw ddod 'mlaen a chael cefnogaeth.
"Rydym eisiau sicrhau bod pob cyn-filwr yng Nghymru yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, a gallwn ddarparu'r cymorth y maen nhw ei angen i'w helpu i ddelio â'u problemau a symud 'mlaen gyda'u bywydau."
'Anodd derbyn bod problem'
16 oed oedd Mr Adamson pan ymunodd â'r fyddin yn 1974. Fe wasanaethodd gyda'r Catrawd Brenhinol yng Ngogledd Iwerddon cyn gadael yn 1981.
Dywedodd ei fod wedi cael ôl-fflachiadau, trafferthion cwsg a phroblemau rheoli tymer am bedwar degawd cyn cael therapi.
"Y peth anodd i gyn-filwr yw derbyn bod gennych broblem," meddai. "Mae yna ddiwylliant yn y lluoedd arfog bod chwilio am gymorth yn wendid.
"Fe allai ddweud yn onest bod therapi wedi gwneud byd o les i mi ac mae'r bobl o fy 'nghwmpas yn dweud cymaint 'dwi wedi newid.
"Mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli nad ateb tymor byr ydy o, ac er mwyn gwneud i'r therapi weithio mae'n rhaid i chi agor i fyny a gadael popeth allan."
Erbyn hyn mae Mr Adamson yn rhedeg Cwmni Bragdy Ynys Môn ac yn gyfarwyddwr gwirfoddol y grŵp UK Veterans - One Voice.
Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr wedi penodi'r hyn sy'n cyfateb i dri therapydd llawn amser i ddarparu cymorth ychwanegol i gyn-filwyr sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth yn sgil rhodd o £500,000 dros y tair blynedd nesaf gan elusen Help for Heroes.
Y nod yw sicrhau bod cyn-filwyr yn cael eu gweld yn gynt.
Mae ymdrechion arbennig yn ardal Abertawe ar hyn o bryd, lle mae mwy o bobl ar y rhestr aros.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu chwe sesiwn seiciatrig y mis ym mhob ardal bwrdd iechyd yn dilyn buddsoddiad o £400,000 gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi dyblu'r gefnogaeth o hanner diwrnod i ddiwrnod llawn.
Mae'n bosib i gyn-filwyr gyfeirio eu hunain at y gwasanaeth trwy wefan GIG Cymru i Gyn-filwyr neu drwy eu meddyg teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2016