Ceidwadwyr 'yn barod i gydweithio â phleidiau eraill'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gyfrifoldeb ar y gwrthbleidiau i gynnig dewis amgen credadwy, medd Andrew RT Davies

Mae Ceidwadwyr Cymru eisiau cydweithio â phleidiau eraill cyn yr etholiad nesaf er mwyn cynnig dewis gwahanol i lywodraeth Lafur yng Nghymru yn 2021, yn ôl Andrew RT Davies.

Dywedodd Mr Davies, sydd wedi arwain y Ceidwadwyr yng Nghymru ers 2011, nad oedd gan yr un blaid "fonopoli ar syniadau da" a bod rhaid i bleidleiswyr deimlo "bod cyfle am newid gwirioneddol yng Nghymru".

Wrth ymateb i gwestiwn ar y posibilrwydd o glymbleidio â Phlaid Cymru, dywedodd: "Dwi ddim yn mynd i osod unrhyw rwystrau i'n hatal rhag gwthio Llafur allan o lywodraeth, a rhaid i ni gymell pleidleiswyr i bleidleisio drosom ni."

Dan arweinyddiaeth Mr Davies, fe gollodd y Ceidwadwyr dir yn etholiad Cynulliad 2016, gan golli tair sedd a llithro y tu ôl i Blaid Cymru.

Cydweithio

Fodd bynnag, mae newidiadau yn lliwiau gwleidyddol rhai aelodau'n golygu ei fod e bellach yn arwain yr wrthblaid fwyaf.

Yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg eleni, ychwanegodd: "Dwi ddim yn mynd i ysgrifennu maniffesto 2021 y Ceidwadwyr ar ddechrau 2018.

"Yr hyn sy'n bwysig i ni ei gydnabod ar ddechrau 2018 yw bod yna weledigaeth o fewn ein meinciau ni y gallwn ni gydweithio gyda phleidiau a grwpiau gwleidyddol eraill os oes ewyllys i wneud hynny.

"Mae 'na gyfleoedd eraill yn ogystal â chlymbleidio a chynlluniau eraill y gallwn weithio arnyn nhw i gael gwared â llywodraeth Lafur."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Wood wedi dweud na fyddai yna glymbleidio gyda'r Ceidwadwyr dan ei harweinyddiaeth hi

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud na fyddai hi fyth yn arwain ei phlaid i glymblaid gyda'r Ceidwadwyr.

"Dwi'n deall hynny, ond mae'r dŵr a'r llanw yn mynd a dod, fel petai," medd Mr Davies.

"O'n safbwynt ni, dy'n ni ddim yn siarad chwe mis neu chwe wythnos cyn etholiad, ry'n ni'n amlinellu pethau dair blynedd a mwy cyn etholiad."

'Dewis amgen'

Dywedodd fod llawer o gefnogwyr datganoli'n teimlo bod Llafur wedi eu methu nhw'n ddrwg ers i'r Cynulliad ddod i fodolaeth yn 1999.

"Felly mae'n disgyn i'n dwylo ni fel gwrthbleidiau yma heddiw yn 2018 i gynnig dewis amgen credadwy ar gyfer llywodraethu," meddai.

"Fel arall, bydd mwyafrif y cyhoedd yn dweud, 'Wel peth yw pwynt pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad?'

"Mae nifer y pleidleiswyr wedi bod yn broblem enfawr ac mae cymell etholwyr i fynd allan yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn bryder mawr i wleidyddion sy'n eistedd yma."

Dywedodd Simon Thomas, AC Plaid Cymru ei bod hi'n "llawer rhy gynnar i fod yn trafod beth ddylai ddigwydd yn yr etholiad Cynulliad nesaf neu hyd yn oed yr hyn fydd yn digwydd ar ôl yr etholiad Cynulliad nesaf.

"Os ydych chi eisiau dewis amgen i Lafur, yna mae gan Blaid Cymru a Leanne ddewis amgen."

Wrth ddisgrifio llywodraeth Theresa May fel "llanast", ychwanegodd: "Dwi ddim yn credu eu bod nhw [y Ceidwadwyr] yn ddewis credadwy yng Nghymru."