Dan Lydiate i fethu'r Chwe Gwlad a gweddill y tymor

  • Cyhoeddwyd
LydiateFfynhonnell y llun, Asiantaeth Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lydiate ei anafu wrth i'r Gweilch guro'r Dreigiau yn y Pro14

Ni fydd blaenasgellwr Cymru a'r Gweilch, Dan Lydiate yn chwarae am weddill y tymor oherwydd anaf i'w fraich.

Cafodd Lydiate, 30, ei anafu ym muddugoliaeth y Gweilch o 22-9 yn erbyn y Dreigiau, a bydd yn cael llawdriniaeth yr wythnos hon.

Mae'n ergyd arall i garfan Cymru ar ôl cadarnhad y bydd Jonathan Davies a Sam Warburton yn methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a bod yr wythwr Taulupe Faletau yn annhebygol o chwarae.

Mae disgwyl i Gymru gyhoeddi eu carfan ar gyfer y Chwe Gwlad ar 17 Ionawr.