Heddlu Gogledd Cymru i ddefnyddio dronau mewn achosion
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Sion Tecwyn, Newyddion 9
Heddlu Gogledd Cymru yw'r llu diweddaraf yng Nghymru i ddefnyddio dronau yn eu brwydr yn erbyn troseddu.
Mae 15 o swyddogion a staff wedi'u hyfforddi i ddefnyddio'r awyrennau di-beilot i gasglu delweddau i'w defnyddio mewn ymchwiliadau.
Mae hyn yn cynnwys chwilio am bobl sydd ar goll yn ogystal â chasglu tystiolaeth mewn ymchwiliadau traffig ar y ffyrdd, a digwyddiadau troseddau mawr.
Cafodd dronau eu defnyddio'n ddiweddar i ymchwilio i dân yng ngwesty'r Gateway to Wales yn Queensferry.

Cafodd dronau eu defnyddio i edrych ar y difrod achoswyd gan dân yng ngwesty'r Gateway to Wales yn Queensferry

Mae gan y tîm ddwy awyren, sydd hefyd yn gallu cludo camera delweddu thermol - maen nhw eisoes wedi cael eu defnyddio i chwilio am bobl sydd ar goll, ac wrth ymchwilio i ddigwyddiadau yn ystod achos y llynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Craig Jones o uned cynllunio gweithredol y llu eu bod yn hynod effeithiol wrth gasglu delweddau dros ardaloedd anodd neu dir sy'n anodd eu cyrraedd, ac yn helpu swyddogion i gael gwybodaeth yn gyflym ac yn ddiogel.
Dywedodd Stuart Millington o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod y gallu i weld delweddau symudol o'r awyr mewn digwyddiadau yn ymwneud â thanau yn "offeryn defnyddiol iawn".
Mae cytundeb gyda'r heddlu yn golygu y gall y gwasanaeth tân alw ar gynlluniau peilot yr heddlu er mwyn eu helpu i ddelio â digwyddiadau pan fo angen.
Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard, fod y dronau'n declynnau cost effeithiol iawn wrth ymladd troseddau a helpu cymunedau.
"Mae'r gallu i lansio'r dronau mewn ychydig funudau yn helpu i achub bywydau a sicrhau tystiolaeth hanfodol os oes troseddu'n digwydd." meddai.

Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach ymhlith nifer o luoedd eraill, gan gynnwys Heddlu Glannau Mersi, sy'n defnyddio dronau

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
- Cyhoeddwyd5 Mai 2016