Brexit: 'Peidiwch ymddiried yn y Torïaid' meddai Plaid
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i "beidio ymddiried yn y Ceidwadwyr" a'u haddewidion am ddeddfwriaeth Brexit.
Roedd Simon Thomas AC yn ymateb i oedi yng nghynlluniau Llywodraeth y DU i newid cynlluniau deddfwriaethol i adlewyrchu pryderon am ei effaith ar ddatganoli.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod yr oedi'n "hynod siomedig" ond y byddan nhw'n ceisio sicrhau bod llywodraeth Theresa May yn dal at eu gair.
Fe ddywedodd Mrs May bod ei llywodraeth yn dal i fwriadu newid Mesur Ymadael yr UE.
Newid yn Nhŷ'r Arglwyddi
Daeth i'r amlwg ddydd Mawrth na fyddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r newidiadau dan sylw yn ystod dadl yr wythnos nesaf ar y mesur.
Yn dilyn y ddadl honno, bydd y bil yn symud i Dŷ'r Arglwyddi - ac yno, meddai Mrs May, bydd y Llywodraeth yn "edrych i gyflwyno newidiadau".
Ar hyn o bryd, byddai'r ddeddfwriaeth yn golygu bod pwerau mewn meysydd datganoledig sy'n dychwelyd i'r DU o'r UE wedi Brexit yn cael eu symud i San Steffan yn gyntaf - nid i Gaerdydd.
Cafodd ymgais gan lywodraethau Cymru a'r Alban i newid hynny eu gwrthod yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Tachwedd.
Dywedodd Mr Thomas, AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, bod y newid yn amserlen y mesur yn "fethiant mawr".
"Pam eich bod yn parhau i ymddiried yn y Torïaid? Pam rhoi dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn nwylo llywodraeth Geidwadol sydd wedi methu glynu at eu haddewidion?" gofynnodd mewn sesiwn yn y Cynulliad.
Awgrymodd y dylai Llywodraeth Cymru nawr gyflwyno'u bil parhad, sydd eisoes wedi cael ei baratoi fel ffordd o gadw rheoliadau'r UE yn rhan o gyfraith Cymru drwy ddeddfwriaeth yn y Cynulliad.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi nifer o welliannau i'r mesur ddydd Mercher ond "dydyn nhw ddim yn ymateb i'n gwrthwynebiad sylfaenol ni i'r bil, yn enwedig y ffaith nad yw yn parchu'r setliad datganoli".
Ychwanegodd bod hynny'n "hynod siomedig".
Dywedodd David Rees, cadeirydd pwyllgor Brexit y Cynulliad, bod "angen cychwyn" cyflwyno bil parhad yn fuan oherwydd bod amser "yn mynd yn brinnach a phrinnach".
Ymateb Mr Drakeford oedd bod y llywodraeth yn ymwybodol o'r cyfyngiadau amser.
Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ddydd Mercher y gallan nhw gyflwyno bil o'r fath yn y Senedd yng Nghaeredin ym mis Chwefror.