Cwest: Goriad ar goll adeg marwolaeth lifft Abertawe

  • Cyhoeddwyd
WalkaboutFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cyran Stewart yn gweithio yn Walkabout yn Abertawe

Mae cwest wedi clywed fod goriad oedd yn cael ei ddefnyddio i agor lifft ar goll pan fu gweithiwr farw mewn clwb nos yn Abertawe ar ôl cael ei wasgu gan lifft.

Cafodd swyddogion tân eu hanfon i far Walkabout i geisio rhyddhau Cyran Stewart, a chanfod nad oedd eu goriad-V nhw yn gweithio chwaith.

Roedd Mr Stewart, 20, yn defnyddio lifft gwasanaethau i symud dodrefn yn oriau man y bore ar 24 Chwefror 2014 pan gafodd ei wasgu gan stolion trwm.

Bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Treforys.

'Hen ffasiwn'

Dywedodd y rheolwr tîm y gwasanaeth tân, Richard Morris fod y lifft yn y bar yn un "diwydiannol hen ffasiwn".

Esboniodd fod criwiau tân yn cario nifer o oriadau er mwyn gallu agor lifftiau mewn argyfwng, ond nad oedd eu goriad wedi gweithio ar yr achlysur hwn.

"Doedd y lifft ddim yn symud o gwbl, roedd yn sownd yn llwyr," meddai.

Yn ôl un o'r swyddogion heddlu cyntaf i gyrraedd, y Sarsiant Leighton Davies doedd dim llawer o le gan y gwasanaethau brys i weithio ynddo er mwyn ceisio rhyddhau Mr Stewart.

Roedd wyth o stolion yn pwyso 20kg yr un yn cael eu cludo yn y lifft gan Mr Stewart, meddai, ac mae'n ymddangos fod pentwr ohonynt wedi disgyn ar y gweithiwr.

"Es i lawr ar fy ngliniau a dyna pryd welais i Mr Stewart. Roedd ei wyneb yn las, roedd yn edrych yn farwaidd."

Offer arbennig

Clywodd y llys fod y Sarsiant Davies wedi ceisio defnyddio morthwyl trwm i dorri coesau un o'r stolion er mwyn rhyddhau Mr Stewart, ond gan eu bod wedi eu hatgyfnerthu, y morthwyl dorrodd yn lle hynny.

Esboniodd y swyddog tân Simon Evans eu bod wedi gweithio "ar frys" i geisio rhyddhau'r gweithiwr gan fod rhywun wedi clywed sgrechiadau.

Ond roedd olwyn oedd yn cael ei ddefnyddio i symud y lifft ddim yn gweithio, ac yn y diwedd bu'n rhaid defnyddio offer hydrolig i gael mynediad.

"Unwaith cafodd y dodrefn eu torri, dechreuodd y lifft symud, ac unwaith roedd digon wedi cael ei symud, roedd modd symud y dyn i'r lifft ac fe ddechreuodd y parafeddygon ar eu gwaith," meddai.

Mae'r cwest yn parhau.