Charles Hendry yn 'hyderus' am forlyn Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Charles Hendry
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Charles Hendry ei fod yn credu y byddai'r cynllun digwydd

Fe fydd cynlluniau i greu morlyn ynni llanw ym Mae Abertawe yn cael eu gwireddu er gwaethaf blynyddoedd o oedi, yn ôl y dyn wnaeth gynnal arolwg annibynnol i'r cynllun.

Bellach, mae yna flwyddyn union ers adroddiad Charles Hendry i'r cynllun gwerth £1.3bn.

Dydy gweinidogion yn San Steffan heb roi sêl bendith i'r fenter hyd yn hyn, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig rhoi buddsoddiad sylweddol i'r prosiect.

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun yn honni ei fod yn rhy ddrud a na fydd yn cynnig gwerth am arian.

'Hyderus ac optimistaidd'

Mae Charles Hendry yn dweud fod yr oedi yn awgrymu y bydd y cynllun yn gweld golau dydd: "Mae'r ffaith nad yw'r llywodraeth wedi dweud 'na' yn rheswm i fod yn hyderus ac optimistaidd.

"Rwy'n credu mai'r peth hawsaf i'r llywodraeth fyddai dweud yn gynnar yn y broses o arolygu fy nghasgliadau eu bod wedi eu hystyried ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill a dweud - dim dyma'r amser i wneud hyn - ond dydyn nhw heb wneud hynny."

Ychwanegodd: "Mae digwyddiadau eraill wedi tarfu ar bethau, fel etholiad cyffredinol a newidiadau o fewn y llywodraeth.

"Felly yn anorfod mae wedi cymryd amser i'r llywodraeth wneud penderfyniad.

"Ond rwyf o'r farn fod y dystiolaeth dal yn gryf o blaid y cynllun."

Ffynhonnell y llun, TLP
Disgrifiad o’r llun,

Mae beirniaid y cynllun yn dweud y byddai'r morlyn yn rhy ddrud

Mae'r cwmni y tu ôl i'r fenter yn honni y byddai'r cynllun yn darparu digon o drydan i 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd.

Ond yn ôl beirniaid y cynllun byddai'n ffordd rhy ddrud o gynhyrchu ynni adnewyddol, gan olygu y byddai trethdalwyr yn gorfod ei sybsedeiddo am ganrif.

Mae'n nhw'n dadlau y gallai modd rhatach o gynyrchu ynni gael ei ddarganfod yn y cyfamser.

Gwerth am arian

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns mae'r cynllun yn dibynnu ar ei werth am arian.

Ddydd Iau, dywedodd Mr Cairns: "Fy rôl i, a rôl Prif Weinidog Cymru, yw gofalu am arian trethdalwyr.

"Ddylien ni ddim buddsoddi mewn cynllun sydd ddim yn rhoi gwerth am arian i drethdalwyr oherwydd yn y pen draw fe fyddai cynllun drudfawr nad sy'n rhoi gwerth am arian yn achosi prisiau trydan uwch."