Llu Awyr yn cydnabod rôl Lloyd George yn Llanystumdwy

  • Cyhoeddwyd
Cafodd gardd goffa i'r Llu Awyr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gardd goffa i'r Llu Awyr ei hagor yn Llanystumdwy

Roedd seremoni dydd Gwener yn Llanystumdwy - y pentre' lle cafodd David Lloyd George ei fagu - i ddathlu ei gyfraniad i'r Llu Awyr.

Roedd y digwyddiad yn Amgueddfa Lloyd George yn nodi 100 mlynedd ers iddo - fel prif weinidog - sefydlu'r llu annibynnol cyntaf yn 1918.

Fe wnaeth awyrennau o'r RAF hedfan uwchben y seremoni, ac fe gafodd gardd goffa ei hagor a chofiant ei gyflwyno.

Mae arddangosfeydd yn rhan o'r dathliadau hefyd.

Dywedodd pennaeth y Llu Awyr, Syr Stephen Hiller, fod Lloyd George yn llawn haeddu cael ei gydnabod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David Lloyd George oedd y prif weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Lloyd George yw'r unig Gymro i ddal swydd y prif weinidog, ac roedd ymhlith y gwleidyddion cyntaf i roi ystyriaeth i bwysigrwydd y llu awyr.

Roedd yn aelod seneddol dros etholaeth Caernarfon o 1890 tan 1945 ac yn brif weinidog rhwng 1917 a 1922.

Erbyn 1917 roedd yn gweld awyrennau rhyfel yn fodd o roi diwedd ar y gyflafan yn y ffosydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd awyrennau rhyfel dan reolaeth y Fyddin tan 1917

Dywedodd Syr Stephen Hillier, oedd yn bresennol yn y seremoni: "Roedd Lloyd George yn arweinydd rhyfel gwych, ac fe wnaeth gyflawni nifer o bethau yn ystod ei yrfa wleidyddol.

"Mae ei rôl wrth sefydlu'r RAF, awyrlu annibynnol cyntaf y byd, yn dystiolaeth bellach o'r hyn a gyflawnodd ac mae o'n haeddu cael ei gydnabod."

Dywedodd ŵyr Lloyd George, David Lloyd Carey-Evans, ei fod o'n falch fod rôl ei daid yn cael ei ddathlu.

"Roedd y fyddin wedi mynnu y byddai'r awyrlu yn dod o dan ei reolaeth, ond roedd fy nhaid yn teimlo yn gryf nad dyma'r ffordd orau ymlaen ac roedd yn benderfynol y byddai'n gallu datblygu yn annibynnol yn hytrach na chael ei arwain gan y fyddin."

Ffynhonnell y llun, John Firth/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Amgueddfa Lloyd George