'Cerdded mewn trwmgwsg i sgandal gamwerthu anferthol arall'
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) fod "yn cerdded mewn trwmgwsg i sgandal gamwerthu anferthol arall" mewn perthynas â Chynllun Pensiwn Dur Prydain, yn ôl cadeirydd un o bwyllgorau San Steffan.
Mae'r Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau wedi bod yn ymchwilio i'r FCA a chwmnïau ariannol yn sgil pryderon y gallai aelodau'r cynllun pensiwn fod wedi cael cyngor amhriodol.
Fel rhan o gytundeb i geisio diogelu swyddi Dur Prydain ar draws y DU, roedd yn rhaid i'r 122,000 o aelodau benderfynu un ai i symud i gynllun newydd, symud i gronfa benodol arbennig neu drosglwyddo i gynllun pensiwn personol.
Mae gweithwyr yn safle Tata Steel ym Mhort Talbot ymysg y rhai sydd wedi eu heffeithio.
Cwmnïau i atal rhoi cyngor i weithwyr dur Port Talbot
Wedi i'r pwyllgor gyhoeddi llythyrau gan gyfarwyddwr goruchwylio'r FCA, Megan Butler, dywedodd cadeirydd y pwyllgor, yr AS Frank Field: "Rwyf eisoes wedi disgrifio gweithrediadau'r FCA mewn perthynas â Chynllun Pensiwn Dur Prydain fel rhai dybryd o ddiffygiol, ac mae'r atebion hyn yn gwneud dim i newid fy marn."
Cwestiynau pellach
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid iddyn nhw ofalu nad ydyn nhw'n cerdded mewn trwmgwsg i sgandal gamwerthu anferthol arall."
Mae'r pwyllgor hefyd wedi cyhoeddi llythyrau gan gyfarwyddwyr dau gwmni ariannol, Celtic Wealth Management ac Active Wealth Ltd, sydd wedi gwrthod rhoi tystiolaeth mewn person i'r pwyllgor.
Dyw Active Wealth ddim â'r hawl mwyach i roi cyngor am bensiynau ar ôl i'r BBC dderbyn tystiolaeth a'i throsglwyddo i'r FCA.
Mae'r pwyllgor yn dweud y bydd yn rhoi pwysau ar yr awdurdod am atebion i gyfres o gwestiynau pellach.
Gwarchod cwmnïau
Un o'r cwestiynau yw pam wnaeth yr FCA oedi am ddau fis ar ôl derbyn y wybodaeth gan y BBC cyn cysylltu ag Active Wealth.
Mae'r pwyllgor yn nodi bod o leiaf £40m wedi ei drosglwyddo o Gynllun Pensiwn Dur Prydain ar sail cyngor gan y cwmni.
Ychwanegodd Mr Field: "O ymyrraeth y cwmni yn y mater yma, mae'n ymddangos yn glir bod gweithrediadau'r FCA yn dal i bob pwrpas yn gwarchod gallu'r cwmnïau yma i wneud arian o gronfeydd pensiwn yn hytrach na gwarchod aelodau."