'Hyd at filiwn o sychwyr dillad diffygiol all achosi tân'
- Cyhoeddwyd
Mae hyd at filiwn o beiriannau sychu dillad diffygiol mewn cartrefi ar draws Prydain sydd â'r potensial i achosi tân oherwydd ymateb "annigonol" y cynhyrchwyr, Whirlpool, yn ôl pwyllgor o ASau.
Mewn adroddiad mae Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan yn galw ar y cwmni i weithredu ar frys i ddatrys nam sydd wedi arwain at o leiaf 750 o danau ers 2004.
Ym mis Medi, daeth cwest i'r casgliad ei fod yn debygol mai nam trydanol ar sychwr dillad Whirlpool a achosodd dân mewn fflat yn Llanrwst yn 2014 a laddodd Doug McTavish, 39, a Bernard Hender, 19.
Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi wedi'r cwest fe alwodd y crwner David Lewis ar y cwmni i wneud newidiadau.
Mae'r unig berson i oroesi'r tân angheuol wedi dweud ei fod yn bwriadu dwyn achos sifil yn erbyn cwmni Whirlpool.
Deunyddiau mwy diogel
Mae'r pwyllgor trawsbleidiol wedi galw ar Lywodraeth y DU i ystyried sefydlu un corff - Asiantaeth Ddiogelwch Cynnyrch Genedlaethol - yn sgil ofnau bod toriadau ariannol wedi tanseilio gwaith swyddogion safonau masnach lleol.
Maen nhw'n cyhuddo gweinidogion o "wanhau" argymhellion adolygiad annibynnol yn 2016 mewn cysylltiad â'r drefn o alw cynnyrch diffygiol yn ôl.
Mae'n galw ar gynhyrchwyr i ddefnyddio deunyddiau mwy diogel mewn oergelloedd sydd â chefnau plastig, wedi cysylltiad rhwng y peiriannau a thros 200 o danau yn Lloegr wnaeth achosi marwolaethau neu anafiadau difrifol mewn un flwyddyn yn unig.
Cafodd y pwyllgor eu hysgogi i gynnal ymchwiliad i beryglon nwyddau trydanol yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell y llynedd.
Bu farw 71 o bobl a'r gred ydy bod y tân wedi cychwyn mewn oergell Hotpoint diffygiol.
Gofid i gwsmeriaid
Dywedodd cwmni Whirlpool wrth yr awdurdodau yn 2015 bod peryg i fflwff fynd ar dân o fewn eu peiriannau sychu dillad Hotpoint, Indesit, Creda a Proline.
Aeth y cwmni ati i ddechrau addasu peiriannau yng nghartrefi cwsmeriaid, gan roi cyngor yn y cyfamser nad oedd rheswm iddyn nhw beidio â'u defnyddio.
Ond fe gafodd y cyngor yma ei newid wedi tân yn Llundain yn 2016.
Ar ôl clywed mai dim ond tua hanner y cyfanswm o 5.3 miliwn o beiriannau sychu dillad gafodd eu haddasu, dywedodd y pwyllgor bod ymateb Whirlpool yn "annigonol".
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Rachel Reeves bod oedi y cwmni "wedi achosi gofid mawr i bobl â'r peiriannau yma yn eu cartrefi".
"Rydym yn galw ar Whirlpool i ddatrys y materion yma ar frys."
Mesurau 'helaeth' i ddatrys problemau
Mae'r cwmni'n mynnu eu bod wedi addasu 1.7 miliwn o beiriannau, gan ddatrys problemau 99.9% o'r cwsmeriaid oedd wedi'u cofrestru fel perchnogion, a galw'n ôl dair gwaith yn fwy na'r hyn sy'n arferol o fewn y diwydiant pan bod rhaid galw peiriannau'n ôl.
"Wedi dros ddwy flynedd o fesurau helaeth i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch - gan gynnwys cysylltu'n uniongyrchol â 4 miliwn o berchnogion - mae nifer y cwsmeriaid sy'n dod ymlaen wedi gostwng yn sylweddol," meddai'r cwmni.
"Rydyn yn dal yn annog cwsmeriaid i gysylltu â ni yn syth os ydyn nhw'n credu bod ganddyn nhw beiriant diffygiol
"Gallwn sicrhau y cawn nhw ddatrysiad o fewn wythnos ar ôl cysylltu â ni."
Mae'r pwyllgor wedi sefydlu grŵp i edrych ar y ffordd mae cwmnïau'n galw cynnyrch yn ôl.
Ychwanegodd llefarydd bod bwriad i gyhoeddi ymateb yn fuan ar ôl ystyried yr argymhellion, au bod eisoes wedi cymryd nifer o gamau i wella'r drefn diogelwch nwyddau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017