Dynes leol yn prynu papurau'r Y Cyfnod a'r Corwen Times

  • Cyhoeddwyd
Siân TeleriFfynhonnell y llun, Siân Teleri
Disgrifiad o’r llun,

'Her newydd' a 'sialens wahanol' i Siân Teleri

Dynes leol yw perchennog newydd dau bapur newydd yn ardal Y Bala a Chorwen.

Fe fydd Siân Teleri o Gefnddwysarn ger Y Bala yn yn cynhyrchu ei rhifyn cyntaf o bapur dwyieithog Y Cyfnod ar 1 Chwefror.

Hi hefyd fydd yn gyfrifol am y Corwen Times, ar ôl i'r perchennog ers 2013, Mari Williams, apelio am brynwr i'r ddau bapur.

Dywedodd Siân Teleri mai ei blaenoriaeth wrth gychwyn ar y gwaith "yw parhau o ble mae Mari yn gorffen".

"Wrth edrych i'r dyfodol, rwy'n edrych ymlaen am yr her newydd ac yn edrych ymlaen am sialens wahanol," dywedodd.

"Mae Mari wedi creu sylfaen arbennig a chadarn i'r papur, felly dim ond parhau i weithio ar hynny sydd rhaid."

Papurau'n 'ganolog i'r ardal'

Fe benderfynnodd Ms Williams i werthu'r busnes ym mis Hydref ar ôl derbyn swydd newydd yn golygu cylchgronnau'r Urdd.

Dywedodd bod dyfodol y papurau "wedi bod yn bryder mawr" iddi pan ddaeth i'r amlwg nad oedd modd cyfuno'r swydd honno a rhedeg y ddau bapur, a'i bod "wrth ei bodd" bod prynwr lleol wedi dod i'r fei.

Ffynhonnell y llun, Mari Williams

Mae hynny, meddai, yn golygu bod modd trosglwyddo'r busnes yn ddi-dor o un perchennog i'r llall heb orfod symud swyddfa na newid manylion cysylltu.

Dywedodd: "Mae gan Siân gefndir cryf mewn codi arian a marchnata, a 'dwi'n siŵr y bydd yn cryfhau ochr fasnachol y busnes sy'n allweddol i barhad papurau sydd mor ganolog i'r ardal yma.

"Rydw i'n dymuno pob llwyddiant i Siân. Mi wn hefyd y bydd trigolion yr ardaloedd lleol yn gefnogol iddi hi fel y buon nhw i fi ar hyd y blynyddoedd."