Ysgrifennydd Addysg yn methu trip gostiodd dros £5,500

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kirsty Williams ganslo ei hymweliad â Fietnam ym mis Tachwedd

Cafodd trip gan yr Ysgrifennydd Addysg i Fietnam, wnaeth gostio dros £5,500 i drethdalwyr, ei ganslo ar yr un pryd â phleidlais allweddol yn y Senedd.

Roedd Kirsty Williams i fod i deithio i dde-ddwyrain Asia pan wnaeth y Ceidwadwyr orfodi pleidlais ar gynnal ymchwiliad i honiadau o fwlio.

Mae'r Torïaid wedi awgrymu fod Ms Williams wedi canslo ei thaith oherwydd y bleidlais, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod ganddi "ymrwymiadau eraill".

Mae e-byst wedi dangos un swyddog yn dweud fod y rhesymau pam wnaeth hi ddim teithio yn "amlwg".

'Reit ddig'

Fe wnaeth e-byst gafodd eu datgelu i'r Ceidwadwyr ddangos fod cost y gwestai ar gyfer Ms Williams a'i dirprwyaeth o dri am bum noson yn £3,937.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod cyfanswm y gost wedi dod i £5572.52.

"Mae'r e-byst yma'n rhoi cipolwg prin i ni dan fonet peiriant sbin Llywodraeth Cymru," meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gan ychwanegu y byddai'r cyhoedd yn "reit ddig" gyda'r gost.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kirsty Williams i fod i deithio i Ddinas Ho Chi Minh gyda dirprwyaeth o dri o bobl

Ychwanegodd: "Bydden ni'n awgrymu mai'r rheswm go iawn pam gafodd ysgrifennydd cabinet ei galw yn ôl i'r Cynulliad yn sydyn oedd oherwydd eu bod nhw wedi eu chwipio i bleidleisio yn erbyn ymchwiliad gan ACau i honiadau y gallai'r prif weinidog fod wedi camarwain Aelodau Cynulliad."

Roedd AC y Democratiaid Rhyddfrydol i fod i ymweld â Fietnam er mwyn hybu recriwtio myfyrwyr a chydweithio ar ymchwil.

Ond yn yr un wythnos fe wnaeth y Ceidwadwyr orfodi pleidlais yn galw ar bwyllgor Cynulliad i ymchwilio i honiadau o fwlio yn erbyn Llywodraeth Cymru - ymgais oedd yn aflwyddiannus oherwydd mwyafrif y llywodraeth yn y Siambr.

'Gwir reswm'

Cafodd datganiad ei baratoi rhag ofn y byddai cais am sylw gan y wasg, yn dangos fod Llywodraeth Cymru'n bwriadu dweud nad oedd Ms Williams yn gallu mynd i Fietnam oherwydd "ymrwymiadau eraill".

Mewn e-byst rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod beth i'w ddweud wrth y cyfryngau - gafodd eu rhyddhau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth - dywedodd un ei bod hi'n "amlwg beth yw'r gwir reswm fan hyn".

Fe wnaeth BBC Cymru ofyn i lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru os bod Ms Williams wedi canslo ei thrip i Fietnam oherwydd y bleidlais.

Glynodd at y datganiad roedd swyddogion wedi cytuno arno llynedd, gan ddweud: "Fel 'dyn ni wedi dweud yn barod, tra bod y daith fasnach gafodd ei threfnu gan Lywodraeth Cymru i Fietnam wedi mynd yn ei blaen, wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddim mynychu oherwydd ymrwymiadau eraill."