Bwlio: Dim ymchwiliad pwyllgor Cynulliad i Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd

Mae ACau wedi pleidleisio yn erbyn cynnig fyddai wedi golygu gofyn i bwyllgor Cynulliad ymchwilio i honiadau o fwlio.
Roedd y Ceidwadwyr wedi galw ar Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i edrych ar beth oedd Carwyn Jones yn ei wybod am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.
Cafodd eu cynnig ei gefnogi gan Blaid Cymru ac UKIP, ond fe bleidleisiodd Llafur dros welliant yn dweud y dylai Mr Jones wynebu ymchwiliad annibynnol.
Fe wnaeth y Prif Weinidog gymryd rhan yn y bleidlais, er gwaethaf cyhuddiad y byddai gwneud hynny yn esiampl o wrthdaro buddiannau "amlwg a niweidiol".
Yn y cyfamser, daeth i'r amlwg na fydd Mr Jones yn mynd i angladd Carl Sargeant ddydd Gwener.
'Ble well i graffu?'
Daeth y ddadl yn sgil honiadau gan y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones fod awyrgylch wenwynig o fewn Llywodraeth Cymru yn y gorffennol.
Roedd y gwrthbleidiau eisiau gweld y pwyllgor craffu yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i'r hyn yr oedd Mr Jones yn ei wybod, a beth wnaeth ynghylch yr honiadau.
Ond ers i'r cynnig gael ei gyflwyno'r wythnos diwethaf, mae Mr Jones wedi cyfeirio ei hun at ymchwiliad annibynnol ar wahân.

Dywedodd Paul Davies y byddai "ACau profiadol" y pwyllgor wedi sicrhau na fyddai'r ymchwiliad yn mynd yn rhy "wleidyddol"
Bydd yr ymchwiliad hwnnw yn cael ei gynnal gan James Hamilton, sy'n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Yr Alban ac wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru.
Wrth gyflwyno'r ddadl yn y Cynulliad dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies AC fod angen "ymchwilio i'r honiadau mewn modd agored a thryloyw".
Ychwanegodd ei fod yn "croesawu" ymchwiliad annibynnol, ond ei fod dal yn briodol i'r pwyllgor craffu gynnal eu hymchwiliad hwythau i'r Prif Weinidog.
"Mae'n ymddangos fel bod y llywodraeth ddim ond yn derbyn craffu ar y mater yma os yw e ar eu telerau nhw," meddai.
Ychwanegodd: "Dyw Llywodraeth Cymru ond yn ateb cwestiynau pan maen nhw'n teimlo fel gwneud."

Fe wnaeth Plaid Cymru ac UKIP gefnogi cynnig y Ceidwadwyr
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod "cwestiynau heb eu hateb" ynghylch ymateb y Prif Weinidog i'r honiadau, a bod y llywodraeth yn ceisio atal "un llwybr" yn y broses graffu.
"Allwn ni ddim bod o blaid defnyddio un ffordd o graffu i ddileu ffordd arall o graffu... mae modd cael y ddau," meddai.
"Dyw hi ddim yn iawn [fod y Prif Weinidog] yn gyfrifol am blismona ei ymddygiad ei hun."
Ychwanegodd Adam Price AC fod gofyn i'r pwyllgor craffu edrych ar y mater yn rhan o "graffu seneddol cyffredin".
Holodd arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton a fyddai'r ymchwiliad annibynnol yn "gofyn y cwestiynau cywir".
"Ble well i graffu ar weithredoedd, neu ddiffyg gweithredoedd, y Prif Weinidog nag yn y Cynulliad Cenedlaethol?"
'Un llais'
Wnaeth Carwyn Jones ei hun ddim cyfrannu yn ystod y ddadl, ar ôl dweud gynt nad oedd yn "ofn i ymgynghorydd annibynnol ystyried a wyf wedi torri'r cod gweinidogol, oherwydd rwy'n hyderus nad wyf wedi gwneud".
Ond yn y siambr fe wnaeth sawl AC Llafur amddiffyn y Prif Weinidog, gyda Lynne Neagle yn dweud y gallai gweision sifil fod yn "llai awyddus" i gyfrannu i'r pwyllgor craffu nag y bydden nhw i ymchwiliad annibynnol.

Dywedodd Lynne Neagle ei bod yn pryderu a fyddai'r cyhoedd yn gweld ymchwiliad gan bwyllgor o ACau fel un "annibynnol"
Dywedodd Mick Antoniw fod yr ymchwilydd annibynnol yn "hynod gymwys" i gynnal yr ymchwiliad, ac nad oedd y pwyllgor yn "addas" i gynnal ymchwiliad o'r fath.
Ychwanegodd Lee Waters: "Rydyn ni [ACau Llafur] yn siarad ag un llais wrth gytuno i sefydlu'r broses annibynnol a dilyn honno i'w therfyn, ac ar y diwedd cael trafodaeth lawn ac agored."

Dywedodd Mick Antoniw fod yn rhaid i'r person fyddai'n gyfrifol "fod yn gymwys i gynnal ymchwiliad o'r fath"
Yn dilyn absenoldeb yr AC annibynnol, Nathan Gill fe bleidleisiodd ACau o 29 i 27 yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr i gael y pwyllgor craffu i ymchwilio.
Yn lle hynny fe bleidleisiodd ACau o blaid y gwelliant Llafur i nodi "ymrwymiad Llywodraeth Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol" fyddai'n ymchwilio i'r Prif Weinidog.
Bydd adroddiad yr ymchwilydd annibynnol, James Hamilton, yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Honiadau o gamarwain
Fe wnaeth Leighton Andrews ei honiadau yn erbyn Llywodraeth Cymru yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy, gafodd ei ganfod yn farw ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet.
Dywedodd cyn-AC Rhondda bod bwlio a gemau meddyliol yn ystod ei gyfnod yn y llywodraeth.
Yn y cyfamser, daeth i'r amlwg na fydd Carwyn Jones yn mynd i angladd Mr Sargeant ddydd Gwener. Dywedodd Mr Jones ei fod yn "parchu dymuniadau'r teulu".
Mae BBC Cymru yn deall y bydd arweinydd Prydeinig y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn mynychu'r gwasanaeth.
Mae Mr Jones hefyd wedi wynebu honiadau iddo gamarwain y Senedd yn 2014 pan ddywedodd mewn ateb i gwestiwn gan yr AC Ceidwadol Darren Millar nad oedd unrhyw honiadau o fwlio gan swyddogion neu ymgynghorwyr wedi ei wneud iddo.
Dywedodd Mr Jones yr wythnos ddiwethaf nad oedd erioed wedi delio gydag unrhyw "honiadau penodol o fwlio" o fewn Llywodraeth Cymru.