Ymchwiliad i dân Llangamarch i gostio dros £560,000

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lluniau o'r awyr o'r tŷ gafodd ei ddifetha gan dân ym Mhowys

Mae ymchwiliad heddlu i dân mewn ffermdy ym Mhowys ble cafodd tad a phump o blant eu lladd bellach wedi costio £560,000.

Bu farw David Cuthbertson, 68 a'i blant ifanc yn y tân yn Llangamarch ar 30 Hydref 2017.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn fod cost yr ymchwiliad "cymhleth" yn debygol o godi ymhellach.

Mae'r llu heddlu wedi cael cais am sylw.

'Ymchwiliad cymhleth'

Ar hyn o bryd does dal dim esboniad i achos y tân, ac mae diffoddwyr wedi dweud fod maint y tân, wnaeth losgi'r tŷ cyfan, wedi ei gwneud hi'n "anodd adnabod y cyrff".

Cafodd Mr Cuthbertson ei ladd yn y tân gyda'i feibion Just Raine, 11, Reef Raine, 10, a Patch Raine, 6, a'i ferch Misty Raine, oedd yn 4 oed.

Dyw chweched corff gafodd ei ganfod dal heb gael ei adnabod, ac mae archwiliadau gwyddonol yn parhau.

Fe wnaeth tri o blant - oedd yn 10, 12 ac 13 oed - oroesi'r tân, ond maen nhw wedi dioddef "trawma sylweddol" ac yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd teyrngedau eu gadael ger y tŷ yn dilyn y digwyddiad

Mewn adroddiad ar gyllideb Heddlu Dyfed Powys yn 2018-19, dywedodd Mr Llywelyn fod y llu wedi gorfod delio ag "ymchwiliad tân sylweddol a chymhleth".

"Mae costau o £560,000 eisoes wedi eu hymrwymo hyd yn hyn i'r ymgyrch yma," meddai.

"Mae'r ymgyrch yn parhau ac felly bydd y gost derfynol, wedi'i dalu o arian wrth gefn, yn debygol o gynyddu eto cyn diwedd blwyddyn ariannol 2017-18."

Mae swyddogion wedi dweud yn y gorffennol y gallai gymryd wythnosau os nad misoedd i ganfod achos y tân.

Mae'r gwaith o ddatgymalu tua 260 tunnell o frics a mortar eisoes yn digwydd "fricsen wrth fricsen er mwyn cadw'r dystiolaeth", meddai'r heddlu.