Datrys dryswch CPD Dinas Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Dinas Bangor wedi cadarnhau fod dryswch ynglŷn â'r defnydd o'r cae 3G ar safle'r clwb wedi ei ddatrys.
Mae Stadiwm VSM ar gyrion Bangor yn berchen i Gyngor Dinas Bangor ac yn cael ei redeg ar brydles gan gwmni cymunedol Nantporth CIC, ac yna'n cael ei rentu gan y clwb.
Fe ymddiswyddodd dau aelod o fwrdd rheoli'r clwb wythnod diwethaf yng nghanol yr anghydfod.
Fe ddaeth i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod anghydfod rhwng y clwb a bwrdd Nantporth CIC ynglŷn â'r defnydd o'r cyfleusterau, ond bellach mae'n ymddangos fod y ddau sefydliad wedi dod i ddealltwriaeth.
Mae'r safle bellach wedi ail-agor, ac mae disgwyl i bob digwyddiad barhau yn ôl y drefn.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb eu bod yn "falch" fod y sefyllfa wedi'i datrys, a dywedodd llefarydd arall ar ran Nantporth CIC eu bod yn "edrych ar ffyrdd lle gall yr holl ran ddalwyr gael eu cynrychioli yn y broses o reoli'r cae 3G".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018