Cynllun band eang newydd wedi ei 'deilwra' i ardaloedd

  • Cyhoeddwyd
Gwifrau

Fe fydd cynllun band eang cyflym yn "cael ei deilwra i wahanol anghenion" gwahanol rannau o Gymru, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Julie James AC, y gweinidog sy'n gyfrifol am seilwaith digidol, nad un cytundeb mawr fydd y cynllun, ond nifer o rai llai.

"Dim un cytundeb ar gyfer Cymru gyfan fydd hwn... Mae BT wedi gwneud gwaith da o ddatblygu cynllun Superfast Cymru, ac mae'n debyg fod 96% o'r targed wedi ei gyrraedd."

Ond ychwanegodd Ms James fod rhai pobl yn siomedig fod y cynllun heb eu cyrraedd eto.

Ychwanegodd Ms James fod "problemau penodol yn wynebu gwahanol ardaloedd o Gymru."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod disgwyl i'r cynlluniau newydd gyrraedd 98,000 o leoliadau nad yw Superfast Cymru yn ymgysylltu â nhw eto.

Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gadarnhau wythnos nesa.