Ad-drefnu cabinet: Twitter yn 'fforwm clecs' medd Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones wedi disgrifio'r wefan gymdeithasol Twitter fel fforwm ar gyfer "clecs" wrth iddo amddiffyn ei benderfyniad i beidio â rhyddhau manylion ymchwiliad i'r modd y cafodd y newyddion am ad-drefnu ei gabinet y llynedd ei ryddhau.

Dywedodd y prif weinidog nad oedd "awdurdod" wedi ei roi i ryddhau newyddion bod yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, wedi colli ei le yn y cabinet, cyn dweud wrth y diweddar weinidog ei hun.

Daeth ymchwiliad gan uwch-swyddog yn y gwasanaeth sifil, Shan Morgan i'r casgliad "nad oedd gwybodaeth wedi ei rannu'n answyddogol o flaen llaw" am yr ad-drefnu cabinet ym mis Tachwedd.

Ond yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies roedd sawl esiampl yn bodoli ar wefan Twitter o bobl oedd yn ymddangos fel eu bod yn gwybod o flaen llaw am y newidiadau.

Mae Mr Davies yn galw am gyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad llawn.

Dywedodd: "Mae'n anodd i mi, ac aelodau eraill a phobl sydd â diddordeb yn yr hanes, i gael hyder mewn adroddiadau dy'n ni ddim yn cael eu gweld."

Wrth ymateb yn sesiwn Holi'r Prif Weinidog, dywedodd Mr Jones fod yr "ymchwiliad yna wedi gorffen", a bod perygl petai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi y byddai tystion yn cael eu dychryn.

"Fe wnaeth pobl gytuno i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad ar yr amod bod eu henwau'n cael eu celu," meddai'r prif weinidog.

"Beth mae e'n ei ofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ei wneud ydy datgelu enwau'r unigolion yna, a bod eu tystiolaeth yn cael ei wneud yn gyhoeddus. Ond byddai hynny'n gywilyddus ac yn anonest, ac fe fyddai'n dwyn anfri ar y llywodraeth.

"Mae ymchwiliadau eraill yn mynd yn eu blaen. Mae'n hollol bwysig bod y bobl yma'n teimlo bod modd iddyn nhw gyfrannu a rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliadau rheiny."