Didcot: Ystyried dwyn cyhuddiadau o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau pedwar dyn yng ngorsaf bŵer Didcot yn ystyried dwyn cyhuddiadau o ddynladdiad.
Bu farw'r dynion pan gwympodd rhan o'r pwerdy ym mis Chwefror 2016.
Clywodd gwrandawiad cyn y cwest yn Llys Crwner Rhydychen am wybodaeth ddiweddar sydd wedi dod i law Heddlu Dyffryn Tafwys.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn edrych ar gyhuddiadau o ddynladdiad corfforaethol, dynladdiad drwy esgeulustod difrifol, a chyhuddiadau o dorri rheolau iechyd a diogelwch.
Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Craig Kirby wrth y crwner, Darren Salter, fod ffeil yn cynnwys y dystiolaeth newydd wedi ei gyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron ar 29 Rhagfyr.
Ychwanegodd: "Mae nifer o unigolion a chwmnïau yn cael eu hamau o fod wedi cyflawni'r troseddau hyn, ac wedi eu cyfweld gan yr heddlu."
Dywedodd Mr Salter fod swyddogion wedi cynnal 1,921 o gyfweliadau â thystion ac nid oedd dyddiad wedi ei bennu ar gyfer cwblhau'r ymchwiliad.
Bu farw'r gweithwyr Ken Cresswell, 57, a John Shaw, 61, o Rotherham, Michael Collings, 53, o ogledd ddwyrain Lloegr, a Christopher Huxtable, 34, o Abertawe, yn y digwyddiad.
Fe gymerodd fwy na chwe mis i adfer eu cyrff o'r safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd3 Medi 2016
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2016