Carcharu dyn am werthu cyffur 'cryfach na heroin'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gasnewydd wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am werthu cyffur sydd gannoedd o weithiau'n gryfach na heroin.
Yn ôl yr Asiantaeth Tor-cyfraith Cenedlaethol, cafodd 25,000 pecyn o'r cyffur fentanyl eu darganfod yng nghartref Kyle Enos.
Fe blediodd y gŵr 25 oed yn euog mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Awst i fewnfudo, prosesu ac allforio'r cyffur.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun - yr ail dro yn unig i berson gael ei ddedfrydu am ddosbarthu'r cyffur yn y DU.
60 o farwolaethau
Mae'r Asiantaeth Tor-cyfraith Cenedlaethol yn credu bod modd cysylltu fentanyl gyda 60 marwolaeth ar draws y DU dros yr wyth mis diwethaf.
Clywodd y llys bod yr heddlu wedi dod o hyd i restr o gwsmeriaid ar gyfrifiadur Enos, a bod rhai o'r bobl oedd yn cael eu henwi ar y rhestr wedi marw ers hynny.
Cafodd Jack Barton, myfyriwr 23 oed ym Mhrifysgol Caerdydd, ei ddarganfod yn farw, yn ogystal ag Arran Rees, 34, yn ei gartref yn Rhydaman.
Fe gafodd Jonathan Robinson, 25, hefyd ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Northumbria.
Yn ôl yr erlyniad, mae'n amhosib bod "yn sicr" bod y cyffur wedi dod gan Enos, ac felly na fydd cyhuddiadau'n cael eu dwyn mewn cysylltiad â'r marwolaethau hynny.
Fodd bynnag mae'r Gwasanaeth Erlyn yn Yr Alban yn ystyried a fyddan nhw'n dwyn achos yn ei erbyn yn dilyn marwolaeth yno.
Heddlu'n gwisgo mygydau
Clywodd y llys fod Enos wedi rhentu fflat moethus yng Nghaerdydd gan ddefnyddio'i enillion, a'i fod yn anfon ei holl negeseuon at gwsmeriaid a darparwyr drwy'r we dywyll.
Pan aeth swyddogion o'r heddlu ati i gynnal cyrch ar ei gartref yn Maindee Parade yng Nghasnewydd fe wnaethon nhw wisgo mygydau oherwydd pryderon y gallan nhw anadlu lefelau uchel o'r cyffur.
Yn ei gartref fe ddaeth swyddogion o hyd i becynnau o bowdr, amlenni oedd wedi eu cyfeirio'n barod, clorian a nodiadau dosbarthu.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod Enos "yn hollol ymwybodol o'r peryglon o gymryd fentanyl a'i fod yn rhybuddio prynwyr o hynny wrth werthu dros y we dywyll".
"Er gwaethaf hynny fe wnaeth e barhau i werthu'r cyffur ar raddfa enfawr ac roedd hyd yn oed yn annog cwsmeriaid i rannu eu barn am y cynnyrch," meddai John Davies ar ran y gwasanaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2017
- Cyhoeddwyd29 Awst 2017