Mwslimiaid yn gwirfoddoli i waredu agweddau negyddol
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o Fwslimiaid Ahmadi wedi bod yn codi sbwriel a bwydo pobl ddi-gartref yng Nghaerdydd er mwyn cael gwared ag agweddau negyddol sy'n gysylltiedig â ffydd Islam.
Mae'r Mwslimiaid yn addoli mewn mosg yn Nhreganna, Caerdydd ac mae 35 ohonyn nhw wedi bod yn gwirfoddoli yng nghanol Caerdydd ac yng Nghasnewydd.
Yn ogystal, mae arddangosfeydd wedi'u cynnal mewn neuaddau eglwysi a strydoedd er mwyn herio "y camsyniadau am Islam".
Mae gwreiddiau Mwslimiaid Ahmadi yng ngogledd India ac fe ddaethant i fodolaeth yn niwedd y 19eg ganrif.
Mae Mwslimiaid uniongred yn credu bod Mwslimiaid Ahmadi yn anuniongred am nad ydynt yn credu mai Mohammed oedd y proffwyd olaf a gafodd ei anfon i arwain dynolryw.
Mae llai na 150 o Fwslimiaid Ahmadi yn byw yng Nghymru, ac ym Mhacistan mae nifer yn dianc rhag cael eu herlid oherwydd bod eu credoau yn wahanol.
Mae Nassir Domun, cyd-gysylltydd rhanbarthol Cymdeithas y Mwslimiaid Ahmadi iau yn amcangyfrif bod 35 o wirfoddolwyr wedi bod yn helpu i fwydo'r di-gartref mewn un noson.
Dywedodd: "Mae gennym ddyletswydd sylfaenol i edrych ar ôl ein cymuned.
"Credwn y dylwn fod â chydymdeimlad - ac yn garedig i bawb o ddynolryw."
Bydd yr wythnos o weithgareddau yn dod i ben mewn cynhadledd heddwch aml-ffydd yng Nghaerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2017