Pam fod gwyliau ysgol ar adegau gwahanol ar draws Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Beth fydd yn digwydd i Eeisteddfod yr Urdd os na fydd hanner tymor yr haf ar yr un adeg ym mhob ardal?
Disgrifiad o’r llun,

Beth fydd yn digwydd i Eisteddfod yr Urdd os na fydd hanner tymor yr haf ar yr un adeg ym mhob ardal?

Mae ysgolion Cymru'n cymryd gwyliau ar adegau gwahanol ac mae'n medru achosi problemau i athrawon a disgyblion.

Mae'n hanner tymor i ran fwyaf o ysgolion y gogledd yr wythnos yma, ond dyw hi ddim yn wyliau yn y de tan wythnos nesaf.

Pam nad oes rhywun yn gwneud rhywbeth i sicrhau fod gwyliau'r ysgol ar yr un adeg dros Gymru?

Yn fras, un o'r problemau yw bod dyddiad y Pasg yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae hyn yn medru achosi problem wrth ddewis pryd mae gwyliau hanner tymor y gaeaf, ac yn dylanwadu pryd mae'r ysgolion yn cau ar gyfer gwyliau'r haf.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio unioni dyddiadau gwyliau ysgol yng Nghymru ers 2014.

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn rhoi'r pŵer i'r gweinidog addysg orfodi awdurdodau lleol i osod yr un dyddiadau ar gyfer gwyliau ysgol.

Ond...

Mae Deddf Addysg 2002 yn rhoi'r hawl i awdurdodau lleol ac ysgolion i osod dyddiadau tymhorau.

Cyfaddawd?

Mae deddfwriaeth 2014 wedi'i drafftio ar y sail bod awdurdodau lleol ac ysgolion yn cadw'r hawl i ddewis dyddiadau tymhorau ar gyfer eu hysgolion.

Ond mae dyletswydd ar y cynghorau sir i gydlynu â'i gilydd er mwyn sicrhau bod y dyddiadau 'run fath neu mor debyg â phosib.

Dim ond os na fydd unrhyw gysondeb bydd gweinidogion Cymru'n ymyrryd ac yn rhoi cyfarwyddyd ar ddyddiadau tymhorau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n medru bod yn help i gael gwyliau rhatach os yw ysgolion yn torri lan ar adegau gwahanol

Y broses?

Pob blwyddyn, mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy'n amlinellu'r dyddiadau maen nhw'n awgrymu byddai orau.

Mae gan bawb wedyn yr hawl i ymateb i'r dyddiadau gan roi sylwadau ac - yn bwysicach - unrhyw resymau pam na ddylid cadw at y dyddiadau hynny.

Pwy sy'n cael dweud yn y mater?

Ysgolion, awdurdodau lleol, ysgolion annibynnol, undebau llafur a mudiadau fel Cymdeithas y Sioe Amaethyddol Frenhinol sydd yn ymateb gyda rhesymau gwahanol dros ofyn am wahaniaethau yn y dyddiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd hi ddim yn dda mewn rhai ardaloedd os na fydd gwyliau ysgol adeg y Sioe Fawr yn Llanelwedd

Mae'r rhesymau'n medru bod mor amrywiol â:

  • Ysgolion Pabyddol yn gweithredu i gael yr wythnos yn arwain fyny at y Pasg fel gwyliau ysgol;

  • Cadw dydd Gŵyl Dewi'n ddiwrnod ysgol am resymau diwylliannol;

  • Siroedd gwledig yn dadlau dros sicrhau fod gwyliau ysgol yr haf yn cychwyn cyn y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd;

  • Athrawon ac Undebau'r athrawon yn dadlau dros dymhorau sydd yr un hyd a ddim yn rhy hir fel bod disgyblion yn blino.

A'r casgliad?

I dorri stori hir yn fyr, nod Llywodraeth Cymru yw gwneud y gwyliau ysgol mor debyg â phosib.

Ond yn aml, mae'n amhosib plesio pawb...