Achosion cam-drin cyffredin yn 'cael eu hanghofio'

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, PA

Mae pwyslais ar daclo ecsbloetio plant yn rhywiol yn golygu fod achosion mwy cyffredin o gam-drin plant yn cael eu hanghofio, yn ôl yr NSPCC.

Mae'r elusen yn dweud fod 90% o achosion o gamdriniaeth yn cael eu cyflawni gan rywun mae'r dioddefwr yn ei adnabod, gyda nifer uchel yn digwydd o fewn teuluoedd.

Mae'r NSPCC eisiau strategaeth yng Nghymru i rwystro ecsbloetio plant yn rhywiol i gael ei ledaenu i gynnwys pob math o gamdriniaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n gweithio ar ymgyrch ymwybyddiaeth newydd.

Dywedodd rheolwr polisi a materion cyhoeddus yr NSPCC, Vivienne Laing: "Yr hyn rydym yn ei bryderu amdano yw bod ffocws a'r newyddion gan awdurdodau lleol, byrddau diogelu, llywodraethau a Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyd ar bobl enwog ac ar ecsbloetio plant yn rhywiol.

"Rydym ni'n pryderu'n fawr ynglŷn â cham-drin plant yn y teulu, ac mae'n debyg fod hyn yn cael ei anghofio. Rydym yn credu mai dyma'r math mwyaf cyffredin o gam-drin plant yn rhywiol.

Effeithiau hir dymor

Fe gafodd Beth o Gaerdydd (dim ei henw iawn) ei cham-drin yn rhywiol gan aelod o'i theulu pan oedd hi'n ifanc.

Dywedodd: "Mae'r effeithiau yn rhai hirdymor. Bydd hyn wastad yn rhan o'ch bywyd pan mae o o fewn y teulu.

"Mae rhywbeth wastad yn eich atgoffa. Os yw'n aelod o'r tu allan, ni fase chi'n ymwneud â nhw, ond mae o dal yn rhan o'r teulu.

"Mae'r lefel o hanes yno, does dim modd dileu hynny, mae'n anodd."

Ecsbloetio

Mae'r NSPCC yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth gynhwysfawr ar rwystro cam-drin plant yn rhywiol drwy edrych ar ffyrdd i daclo pob math o gamdriniaeth.

Ychwanegodd Ms Laing: "Ddylen ni ddim canolbwyntio ar achosion ecsbloetio plant yn unig.

"Mae'n rhaid i ni hefyd ganolbwyntio ar fathau eraill o gamdriniaeth rhyw, gan gynnwys camdriniaeth yn y teulu.

"Rydym yn credu bod modd ei rwystro drwy fanteisio ar ymdrechion pawb. Dyna pam ein bod yn galw am y polisi."

Diogelu'n flaenoriaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod diogelu plant rhag pob math o gamdriniaeth yn flaenoriaeth ac yn cael ei adlewyrchu yn y ddeddfwriaeth a'r polisi sydd eisoes wedi'i gyflwyno.

"Mae hyn yn cynnwys Dyletswydd i Adrodd ble mae Risg i Blentyn, er mwyn atgoffa'r bobl sy'n gweithio gyda phlant o'u cyfrifoldebau i ymyrryd os ydyn nhw'n amau bod risg i blentyn," meddai.