Jack Sargeant yn galw am 'gyfiawnder' ar gyfer ei dad

  • Cyhoeddwyd
jack sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jack Sargeant yn gwisgo un o deis ei dad, Carl, yn ystod ei araith yn y Senedd

Mae Jack Sargeant wedi dweud y bydd ef ac eraill yn y Cynulliad yn brwydro dros "gyfiawnder" yn dilyn marwolaeth ei dad.

Roedd yn siarad yn y Senedd am y tro cyntaf ers cael ei ethol yn Aelod Cynulliad newydd Alun a Glannau Dyfrdwy, yn olynu ei dad, Carl Sargeant.

Dywedodd y byddai'n "edrych ar y ffordd cafodd fy nhad ei drin cyn ei farwolaeth".

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw ym mis Tachwedd 2017, ddyddiau wedi iddo golli ei swydd fel gweinidog yng nghabinet Llywodraeth Cymru.

Mae ymchwiliad i'r ffordd y gwnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ddiswyddo Mr Sargeant yn cael ei gynnal dan arweiniad Paul Bowen QC.

'Teimlad yn yr etholaeth'

Yn ei araith agoriadol ddydd Mawrth, dywedodd Jack Sargeant ei fod yn "fraint" cael ei ethol fel AC yr etholaeth, gan ddiolch i bawb oedd wedi ei longyfarch a'i gefnogi yn ystod yr ymgyrch.

Talodd deyrnged i'w dad ar ddechrau ei araith, gan ddweud ei fod yn rhywun oedd yn "caru ei etholaeth a charu Cymru".

Dywedodd fod ei dad wedi "sefyll wrth fy ochr drwy gydol fy mywyd", ac y byddai galar y teulu "yn parhau i gael ei rannu gan bawb oedd yn ei 'nabod a'i garu".

Yna fe aeth ymlaen i ddweud: "Fe ddywedais i'r wythnos diwethaf fod yr isetholiad yma'n un doedd neb eisiau ei weld, ac nid fi ydy'r unig berson yn y siambr yma sydd eisiau cyfiawnder ar gyfer fy nhad.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jack Sargeant gymeradwyaeth gan ACau ar ddiwedd ei araith

"Dwi'n gwybod o'r ymgyrch rydyn ni newydd ei gynnal fod y teimlad yma'n cael ei rannu ar draws yr etholaeth a'r gymuned, ac ymhellach ar draws Cymru a'r DU hefyd.

"Ochr yn ochr â fy ngwaith gwleidyddol yn y siambr, byddaf hefyd yn sicrhau fod yr ymchwiliadau sydd ar droed yn edrych ar y ffordd y cafodd fy nhad ei drin cyn ei farwolaeth.

"Mae arnai ddyled i fy nheulu, fy ffrindiau, fy etholwyr, ac yn enwedig i Dad, am hynny."

'Ansensitif'

Yn dilyn araith Jack Sargeant dywedodd yr ymgynghorydd gwleidyddol Darran Hill, sydd hefyd yn ffrind i'r teulu, ei bod yn amlwg nad oedd gan yr AC newydd a Carwyn Jones "berthynas naturiol".

"Yn amlwg mae 'na ffiniau ar beth mae Jack yn medru'i ddweud y gyhoeddus, ac hefyd mae'r un peth yn bodoli i Carwyn," meddai.

Ychwanegodd: "Efallai bod lot ohonom ni wedi ymddwyn yn ansensitif dros y misoedd diwethaf, ond yn bendant mae'r prif weinidog wedi gwneud hynny.

"Dwi'n meddwl fod yn rhaid iddo fe ymddwyn yn fwy sensitif heb efallai ildio tir wrth wneud hynny, ond mae'r rhain yn amgylchiadau mor anghyffredin rwy'n credu bod yn rhaid cael approach newydd."

Yn gynharach ddydd Mawrth, buodd Jack Sargeant yn ei gyfarfod cyntaf o'r grŵp Llafur, a hynny ar ôl cwrdd â'r Llywydd fel rhan o'r broses ymgyfarwyddo â'r Cynulliad.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jack Sargeant gymeradwyaeth gan ACau ar ddiwedd ei araith

Wrth gyrraedd y Senedd, dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn "foment cyffrous" iddo wrth ddechrau ar ei waith.

"Mae pawb yn cael nerfau ar ddiwrnod cyntaf swydd, ond dwi'n gyffrous iawn i ddechrau gweddill y diwrnod," meddai.

Cafodd Jack Sargeant ei ethol fel Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy gyda dros 60% o'r bleidlais yn yr isetholiad ar 6 Chwefror.

Mewn cyfweliad wedi iddo gael ei ethol, dywedodd Jack Sargeant fod ei deulu yn dal i "deimlo poen" o golli ei dad.

Cyfaddefodd hefyd bod "tensiynau ar adegau" o fewn y blaid Lafur ehangach ag ef yn ystod ymgyrch yr isetholiad.

Wnaeth Carwyn Jones ddim ymgyrchu yn yr etholaeth yn ystod yr etholiad a hynny, meddai'r prif weinidog, oherwydd diffyg amser.