Jack Sargeant: 'Diolch am ymddiried ynof'

  • Cyhoeddwyd
Isetholiad

Mae mab y diweddar weinidog Cynulliad, Carl Sargeant, wedi diolch i gefnogwyr am "ymddiried" ynddo wrth iddo gadw gafael ar sedd Alun a Dyfrdwy yn y Cynulliad Cenedlaethol i'r Blaid Lafur.

Enillodd Jack Sargeant gydag 11,267 o bleidleisiau mewn isetholiad gafodd ei alw yn dilyn marwolaeth ei dad ym mis Tachwedd.

Ymgeisydd y Ceidwadwyr, Sarah Atherton ddaeth yn ail gyda 4,722 o bleidleisiau, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd.

29.08% o etholwyr Alun a Glannau Dyfrdwy fwrodd bleidlais yn yr isetholiad.

Yn ei araith, fe ddiolchodd Mr Sargeant i'r holl ymgeiswyr gan ddweud bod yr isetholiad wedi ei ymladd yn yr ysbryd cywir.

Diolchodd hefyd i'w deulu a phawb sydd wedi ei gefnogi drwy'r ymgyrch.

"Rwy'n hynod falch fod pobl Alun a Dyfrdwy wedi ymddiried yn Llafur unwaith eto, ac wedi ymddiried ynof i yn bersonol, felly diolch iddyn nhw, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd lawr i Fae Caerdydd i sefyll dros bobl Alun a Glannau Dyfrdwy yn y Cynulliad Cenedlaethol," meddai.

"Yn fwy na dim, hoffwn ddiolch i bob person yma heno, pawb yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, a safodd gyda fy nheulu yn ystod yr amser anoddaf yn ein bywydau."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Jack Sargeant AM

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Jack Sargeant AM

Aeth Mr Sargeant ymlaen i ddweud ei fod yn dal i ddod i dermau gyda marwolaeth ei dad.

"Dyma etholiad na ddylwn ni fod yn sefyll ynddo," meddai.

"Mae cwestiynau i'w hateb am pam ein bod yn sefyll ac ymchwiliadau'n digwydd.

"Ond mae heno am ddathlu buddugoliaeth ar ran pobl Alun a Glannau Dyfrdwy."

Ymchwiliad

Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth Aelod Cynulliad yr etholaeth, Carl Sargeant ym mis Tachwedd 2017.

Yr wythnos cyn ei farwolaeth, collodd ei swydd fel gweinidog yng nghabinet y llywodraeth.

Mae ymchwiliad i'r ffordd y gwnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ddiswyddo Mr Sargeant yn cael ei gynnal dan arweiniad Paul Bowen QC.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates fod y canlyniad yn wych i'r Blaid Lafur ac i Jack Sargeant

Pan ofynnwyd i'r AC Llafur Ken Skates a fyddai Jack Sargeant yn ddraenen yn ystlys Carwyn Jones, dywedodd Mr Skates y byddai Mr Sargeant yn canolbwyntio ar bobl sy'n "sefyll yn y ffordd i'r hyn sydd orau i Alun a Glannau Dyfrdwy".

"Dyna mae Jack yn canolbwyntio arno, a dyna fydd o'n ei sicrhau," meddai.

Y canlyniad llawn

Y Blaid Lafur: Jack Sargeant - 11,267 - 60.7% (+14.9)

Y Ceidwadwyr: Sarah Atherton - 4,722 - 25.4% (+4.4)

Y Democratiaid Rhyddfrydol: Donna Lalek - 1,176 - 6.3% (+1.8)

Plaid Cymru: Carrie Harper - 1,059 - 5.7% (-3.3)

Y Blaid Werdd: Duncan Rees - 353 - 1.9% (-0.5)