Y Cofi sy'n newid byd yn Kenya

  • Cyhoeddwyd
Alun DaviesFfynhonnell y llun, Alun Davies

Pan aeth Alun Davies i weithio fel athro yn Kenya yn 1994, mynd am ddwy flynedd oedd y bwriad, cyn dychwelyd i Gymru "i briodi merch o Fethesda".

"Mewn rhai ffyrdd mae Kilifi yn eithaf tebyg i Gaernarfon," meddai Alun. "Mae pobl yn reit groesawgar a phawb yn nabod ei gilydd.

"Pan gerdda i ar hyd y stryd mae pobl dwi'n nabod wastad yn dweud 'mambo vipi Alun?' (sut wyt ti Alun?) - a finnau'n ateb "mambo poa chifu" (iawn chief!)

Un o Lanuwchllyn ydy Alun yn wreiddiol, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i fagwriaeth yng Nghaernarfon.

Roedd yn aelod o'r grwpiau Eirin Peryglus a Chwyldro yn yr 80au a'r 90au cynnar, ond gadawodd yrfa fel athro Cemeg ar Ynys Môn er mwyn mynd i wirfoddoli yn Affrica.

Bellach mae wedi treulio bron i hanner ei fywyd yno.

"Mi gyrhaeddais i ym mis Medi 1994 fel athro Gwyddoniaeth mewn ysgol wledig. Roeddwn i'n cael tua £100 y mis, felly roedd bywyd yn eitha' syml. Roeddwn i'n byw mewn tŷ heb drydan.

"Ond y peth anoddaf ar y cychwyn oedd nad oeddwn i'n medru siarad Swahili hefo fy nghymdogion. Ar ôl tua chwe mis o ddysgu'r iaith, a threulio dipyn o amser mewn tafarndai (er mwyn cael clywed a defnyddio Swahili!) mi ddes i'n eithaf rhugl.

"Y cynllun oedd aros yn Kenya am ddwy flynedd, wedyn hedfan yn ôl i Gymru yn edrych braidd yn exotic, a phriodi hogan o Fethesda (neu unrhywle arall oedd ddim yn rhy bell o Fangor!)

"Ond mi wnes i gychwyn mwynhau bywyd yn Kenya."

Ffynhonnell y llun, Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Alun Davies (gwaelod ar y chwith) ar safari hefo'r teulu a ffrindiau

Mae Alun bellach wedi ennill doethuriaeth ac yn gweithio fel ymchwilydd yn canolbwyntio ar gryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau ac ymchwilwyr iechyd.

Mae ei waith yn cynnwys cynllun sy'n annog cydweithio rhwng ymchwilwyr meddygol a hanner cant o ysgolion uwchradd yn Kilifi a hefyd yn y brifddinas Nairobi.

"Rydyn ni'n croesawu tua mil o blant bob blwyddyn i'r labordai er mwyn iddyn nhw gael cyfarfod y gwyddonwyr. Ni oedd y cyntaf i gychwyn y math yma o waith yn Affrica.

"I'r rhan fwyaf o'r plant dyma y cyfle cyntaf iddyn nhw deithio mewn bws, gweld cyfrifiadur, gweld toiled modern, a chyfarfod rhywun sy'n gwneud rhywbeth heblaw gwaith athro, ffermwr neu bysgotwr.

"Yn anochel mae'r tlodi yn Kenya yn effeithio ar sut mae pobl yn meddwl a gweithio. I mi mae gweld cyflwr gwael ysgolion, ac amgylchiadau sy'n gwneud dysgu yn anodd, wedi fy ysgogi i drio gwneud rhywbeth am y peth."

Mae'r rhaglen hefyd yn annog pobl ifanc i gyfrannu at y ffordd mae ymchwil iechyd yn cael ei wneud yn Kenya.

Hefyd o ddiddordeb:

"Mae gen i dîm o chwech o bobl yn gweithio ar y prosiect yma. Rhan fawr o 'ngwaith ydy hyfforddi aelodau o'r tîm ar agweddau o waith ymchwil.

"Mae gan ddau ohonynt bellach radd uwch, a dwi'n trïo dod o hyd i arian er mwyn i un gael mynd ymlaen i wneud PhD.

"Y sialens fwyaf ydy denu digon o arian i gario ymlaen hefo'r gwaith. Mae'r cyfrifoldeb o sicrhau cyflogau a hyfforddiant yn syrthio ar fy ysgwyddau i.

"Ond dwi wedi bod yn eithaf llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi sicrhau bron i £3m gan y Wellcome Trust."

Kenyan, Prydeinwyr a Chymry

Yn ystod ei gyfnod cynnar yn Kenya fe wnaeth Alun gyfarfod â merch o'r enw Sassy, oedd yn gwirfoddoli ar y pryd hefo grŵp ymchwil malaria. Bellach maen nhw'n briod gyda thri o blant.

"Mae Moli, Sami ac Iwan yn ystyried eu hunain yn gymysgedd o Kenyan, Prydeinwyr a Chymry," eglurai Alun.

"Ryden ni'n byw ar y traeth, felly mae'r môr yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau ni fel teulu. O'r tŷ rydyn ni'n medru gweld dolffiniaid a chrwbanod gwyrdd bob dydd.

"Tua tair neu bedair gwaith y flwyddyn, fyddwn ni'n pacio'r fan ac yn mynd ar safari am benwythnos i edrych ar yr anifeiliaid."

Ffynhonnell y llun, Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Alun (ar y dde) yn chwarae gydag Eddie Grey

Wnaeth Alun ddim rhoi ei gitâr yn y to pan gyrhaeddodd Kenya, ac mae'r offeryn yn parhau i fod yn rhan mawr o'i fywyd.

"Dwi'n canu a chwarae mewn dau fand yn reit rheolaidd - un band yn Kilifi a'r llall ym Mombasa. Yn ddiweddar mi wnes i gig hefo un o chwaraewyr gitar gorau Kenya - Eddie Grey.

"Mae'r gigs yn reit debyg i rai yng Nghymru - rhai nosweithiau tawel a rhai nosweithiau hollol wallgo!"

Diolch i dechnoleg mae cadw mewn cysylltiad hefo Cymru yn haws i Alun rŵan nag oedd bron i chwarter canrif yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Un o feibion Alun ar safari

"Dwi'n siarad ar y ffôn yn reit rheolaidd efo fy mrawd a chwaer. Erbyn hyn mae'n reit hawdd i mi ffonio neu gadw mewn cysylltiad hefo e-bost neu WhatsApp.

"Mae'n siŵr fod fy mywyd i'n hollol wahanol rŵan i pan gyrhaeddais i. Erbyn hyn rydw i'n ennill cyflog gwell, yn byw mewn tŷ cyfforddus hefo fy nheulu, ac yn llwyr fwynhau fy ngwaith.

"Dwi wedi byw yn Kenya am hanner fy mywyd. Mae fy ngwraig i a 'nheulu i yma, a llawer iawn o ffrindiau ers dros 20 mlynedd.

"Petawn i'n symud yn ôl i Gymru mi fase gen i hiraeth am Kenya."