Galw am statws arbennig i nwyddau mewn porthladdoedd
- Cyhoeddwyd
Dylai porthladdoedd Cymru gael statws arbennig ar gyfer nwyddau sy'n cael eu mewnforio i borthladdoedd ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl rhai sy'n gweithio yn y diwydiant.
Byddai'r statws yn golygu na fyddai'n rhaid talu trethi na thollau ar nwyddau crai fyddai wedi eu mewnforio tra eu bod yn y parth hwnnw.
Dim ond ar ôl i'r nwyddau gael eu troi'n gynnyrch o ansawdd uwch a gadael y parth y byddai'n rhaid talu trethi.
Yn ôl y rhai sydd o blaid y syniad byddai'n denu rhagor o fusnesau rhyngwladol i borthladdoedd Cymru ac yn annog gweithgynhyrchu oddi mewn iddynt.
Mae'r syniad wedi ei grybwyll yn ystod tystiolaeth gan un o bwyllgorau'r Cynulliad oedd yn edrych ar effaith Brexit ar Gymru, a phorthladdoedd yn benodol.
Pan gafodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ei gwestiynu gan y pwyllgor economi yr wythnos ddiwethaf dywedodd bod angen ystyried y syniad.
Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fyddai'n gorfod gwarantu'r statws.
'Hwb i gwmnïau'
Yn ôl Alec Don o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, sy'n Is-Gadeirydd Cymdeithas Borthladdoedd Prydain, byddai gosod statws arbennig yn fanteisiol iawn i borthladdoedd Cymru.
"Gallai helpu cwmnïau ehangu ochr yn ochr â'n porthladdoedd a chreu swyddi fyddai'n dod â budd i economi Cymru'n ehangach," meddai.
Ychwanegodd bod porthladdoedd eraill Cymru'n cefnogi'r statws hefyd.
Mae cwmni Mainstay Marine yn Noc Penfro yn cyflogi 90 o bobl gyda 10% yn brentisiaid.
Dywedodd ei Rheolwr Gyfarwyddwr, Stewart Graves, y byddai statws i'r porthladdoedd yn hwb i gwmnïau'r ardal a bod yna angen am swyddi sy'n rhoi incwm trwy'r flwyddyn i weithwyr o fewn yr economi leol.
Mae Dr Andrew Potter, sy'n darlithio yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, yn dweud bod Rotterdam yn Yr Iseldiroedd yn enghraifft dda o borthladd lle mae diwydiant wedi datblygu yn ardaloedd y dociau.
Ond dywedodd y byddai'n rhaid sicrhau bod digon o longau yn mynd trwy'r porthladdoedd er mwyn cyfiawnhau buddsoddi ac ehangu'r ardaloedd.
Dywedodd Llywodraeth y DU y byddan nhw'n "parhau i ymwneud â'r diwydiant ac ystyried yn ofalus y ffordd orau i ddod â'r budd economaidd gorau i'r DU".
'Meddwl agored'
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod ganddyn nhw "feddwl agored" ynglŷn â'r syniad o osod statws arbennig ar borthladdoedd yng Nghymru ond nad yw'n fater sydd wedi ei ddatganoli.
Ychwanegodd y llefarydd: "Er mwyn i'r syniad weithio ar gyfer Cymru, byddai angen i unrhyw fodel masnachu am ddim ddangos yn glir sut y byddai'n cyfrannu at ein nod llesiant ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
"Rydyn ni'n croesawu syniadau gan y diwydiant ynglŷn â sut y byddai parthau masnachu am ddim yn gallu gweithio yng Nghymru ac yn barod i godi'r mater gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd4 Awst 2017