Andrew RT Davies yn fodlon hwyluso clymblaid â Phlaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
andrew rt

Fe allai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig gamu o'r neilltu yn y dyfodol er mwyn hwyluso clymblaid gyda Phlaid Cymru.

Dywedodd Andrew RT Davies y byddai'n "ffôl" peidio ystyried pob opsiwn wrth drafod clymblaid bosib ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2021.

Mae grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd bellach yn fwy nag un Plaid Cymru wedi i aelodau groesi'r llawr yn ddiweddar.

Mae Mark Reckless wedi symud o UKIP i'r Torïaid, tra bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi gadael a Neil McEvoy wedi'i ddiarddel o grŵp Plaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Reckless, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Neil McEvoy wedi gadael eu grwpiau gwreiddiol yn y Cynulliad

Pan ofynnwyd a fyddai'n caniatáu prif weinidog o Blaid Cymru hyd yn oed os oedd gan y Ceidwadwyr fwy o seddi, dywedodd Mr Davies fod "llawer o opsiynau i'w harchwilio".

"Y peth pwysig o safbwynt gwleidyddol yw bod modd i chi roi rhaglen lywodraethol at ei gilydd y mae modd i bleidiau gwleidyddol ei chefnogi," meddai.

"Dwi'n meddwl fod sawl opsiwn i edrych arno, ddylen ni ddim diystyru unrhyw beth."

'Dim clymblaid â'r Torïaid nac UKIP'

Ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2016 fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ddweud na fyddai hi fyth yn mynd i glymblaid gyda'r Ceidwadwyr nac UKIP.

Ond fis diwethaf dywedodd un arall o ACau'r blaid, Rhun ap Iorwerth, na fyddai'n diystyru'r posibiliad, gan ddweud bod "modd datblygu perthynas rhwng y pleidiau mwyaf annisgwyl".

Pan ofynnwyd i Mr Davies a fyddai angen newid arweinydd ei blaid er mwyn ffurfio clymblaid: "Dwi'n diystyru dim byd mor gynnar â hyn yn 2018 ynglŷn â'r siwrne yna at 2021, ac rydyn ni'n canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn ethol cymaint o Geidwadwyr a phosib.

"Dwi ddim am roi personoliaethau i mewn i hyn, beth dwi'n ei ddweud yw fy mod i'n agored i weithio gyda phleidiau eraill ar draws y bwlch gwleidyddol i greu cyfleoedd yma yng Nghymru."

Mynnodd eto nad oedd yn diystyru unrhyw opsiwn pan ofynnwyd iddo sut fyddai'r ddeinameg yn gweithio rhwng arweinydd Ceidwadol oedd yn cefnogi Brexit, ac arweinydd Plaid Cymru oedd wedi bod yn gadarn o blaid aros yn yr UE.