Golau traffig gwyrdd i fysiau sy'n hwyr yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bydd bysiau sy'n debygol o fod yn hwyr i gyrraedd pen eu taith yn Abertawe wastad yn wynebu golau traffig gwyrdd - diolch i system arbennig.
Mae'r System Leoli Fyd-eang (GPS) yn medru dangos yn union lle mae'r bysiau ac ar ba amser y dylent fod wrth bob un arhosfan.
Os ydynt ar amser bydd y goleuadau traffig yn gweithio fel arfer, ond pe bai bws yn hwyr bydd y goleuadau'n newid i wyrdd er mwyn sicrhau bod y bws yn cyrraedd ar amser.
Mae'r system eisoes yn weithredol yng nghanol y ddinas a chyn hir mae disgwyl iddi ehangu i ardaloedd eraill.
Mae First Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth, yn credu mai Abertawe yw'r unig ardal yng Nghymru i ddefnyddio'r dechnoleg.
'System effeithiol'
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr First Cymru Justin Davies: "Mae gennym y gallu i wybod yn union ble mae'n bysiau wrth i'r dydd fynd yn ei flaen.
"Os yw'r bws yn hwyr, mi fydd y goleuadau traffig yn newid er mwyn cyflymu taith y bws a gwneud iddo beidio colli rhagor o amser."
Mae technoleg debyg yn cael ei defnyddio neu'n cael ei hystyried ar gyfer rhannau eraill o'r DU gan gynnwys Llundain, Newcastle a Chaergrawnt.
Mae Cyngor Abertawe wedi gwario dros £300,000 i gyflwyno'r system newydd ar ôl cael grant gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Mr Davies mae'r system yn rhad iawn i'w rhedeg ac eisoes yn cael effaith: "Gan fod gennym lawer mwy o wybodaeth nag oedd, ry'n yn gallu gweld pa amserlenni neu ba wasanaethau sydd ddim yn gweithio cystal â'r hyn a hoffwn.
"Ry'n felly angen addasu ambell amserlen... ac yn ystod y misoedd nesaf bydd cwsmeriaid yn gweld gwahaniaeth yn ein gwasanaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2016