Cwpan Cyprus: Merched Cymru 0-0 Merched Y Swistir

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, CBDC

Mae Merched Cymru wedi gorffen yn drydydd yn eu grŵp yng Nghwpan Cyprus yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn pencampwyr 2017, Y Swistir.

Fe wnaeth Natasha Harding daro'r bar i Gymru, tra bod Helen Ward wedi methu a rhwydo pan ddaeth cyfle yn hwyr yn y gêm.

Mae Cymru'n gorffen yn drydydd y tu ôl i'r Swistir ar wahaniaeth goliau yn dilyn buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Y Ffindir a cholled o 3-0 yn erbyn Yr Eidal.

Mae tîm Jayne Ludlow nawr yn aros i glywed pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf ddydd Mercher.